Athrawes Cyfnod Allweddol 2 yng Ngwynedd yw Helen Lewis.
"Dwi wedi bod yn dysgu ers 35 o flynyddoedd erbyn hyn a dwi wastad wedi gweld bod canmol a gwobrwyo ymddygiad da yn cael gwell canlyniadau na dim ond dweud y drefn a cheryddu ymddygiad drwg.
Yn fy nosbarth i rydan ni'n dathlu llwyddiant ac ymdrech fel bod pawb yn gwybod amdano. Dwi'n gwneud hyn mewn sawl ffordd, er enghraifft, gofyn i ddisgyblion sydd wedi gwneud gwaith da ei rannu gyda gweddill y dosbarth - mi fyddan nhw'n darllen eu gwaith ysgrifenedig ac yn dangos eu gwaith celf a chrefft i bawb. Dwi hefyd yn gwobrwyo disgyblion sy'n ymddwyn yn arbennig o dda gyda thocynnau clod, ac wedyn yn rhoi gwobrau bach bob hanner tymor am gasglu nifer penodol o docynnau.
Os nad ydi plant yn trio, neu os ydyn nhw'n ymddwyn yn ddrwg, dwi fel arfer yn dweud rhywbeth fel hyn, "yntydi hi'n bechod nad wyt ti'n defnyddio'r talentau wyt ti wedi eu cael?" Dwi'n trio peidio â rhoi'r amser a'r sylw rydw i'n ei roi i ymddygiad da i ymddygiad drwg.
Dwi hefyd yn credu'n gryf mewn trafod pethau. Pryd bynnag mae dau ddisgybl yn fy nosbarth i'n ffraeo, dwi'n dod â nhw at ei gilydd i siarad am y peth. Dwi'n gofyn i'r ddau egluro beth ddigwyddodd, a beth aeth o'i le, gan ddechrau o'r dechrau. Drwy siarad am y peth, maen nhw'n gallu cytuno beth ddechreuodd y ffrae a sut y gallan nhw ddod yn ffrindiau unwaith eto. Mae'r drafodaeth bob amser yn gorffen drwy ysgwyd llaw ac fel arfer mae'r ddau'n mynd i ffwrdd efo'i gilydd a gwên ar eu hwynebau. Mae'r ysgwyd llaw yn ymddangos fel pe bai'n rhan bwysig iawn o'r cymodi."
Cyngor i rieni
"Ceisiwch adeiladu fframwaith ar gyfer ymddygiad da fel bod eich plentyn yn gwybod beth sy'n dderbyniol a beth nad yw'n dderbyniol.
Dylid tynnu sylw at ymddygiad ac ymdrechion da BOB AMSER a'u dathlu.
Dylid neilltuo mwy o amser ar gyfer canmol nag ar gyfer ceryddu.
Rhowch gymaint o gefnogaeth ac anogaeth ag y gallwch ym mhopeth y mae'ch plentyn yn ei wneud.
Gweithiwch gyda'r athro/athrawes dosbarth er mwyn goresgyn unrhyw broblemau sydd gan eich plentyn. Yr un pryd, anogwch eich plentyn i fod yn onest ac yn agored ac i beidio â bod ofn rhannu ei broblemau."
Helen, Gwynedd