Disgybl ysgol 16 oed o Saron, Llandysul yw Menna Has.
"Mae'r cyfrifiadur gartref yn cael ei ddefnyddio gen i, fy mrawd a mam. Os ydych chi'n cynnwys yr amser rydw i'n ei dreulio ar MSN, rydw i'n treulio tua awr a hanner ar y cyfrifiadur bob nos.
Mae MSN fel ystafell sgwrsio breifat - mae gan bob un o fy ffrindiau gyfeiriad ebost, mewn rhestr ebost, a gallwn ni sgwrsio gyda'n gilydd. Rwy'n treulio mwy o amser ar MSN na dim byd arall. Mae tua 50 neu 60 o bobl yn fy rhan i - fy ffrindiau i, pobl yn fy mlwyddyn ysgol, ffrindiau sydd wedi mynd i brifysgol ac nad ydw i'n gweld cymaint arnyn nhw erbyn hyn. Os yw'ch cyfeiriad ebost chi gan rywun, fe allan nhw ddod i mewn; dim ond ychydig o bobl rydw i wedi eu blocio.
Os yw rhywun ar fy rhestr i, yna rydw i ar eu rhestr nhw hefyd. A bob tro mae rhywun yn anfon neges ata i, gall pawb arall sydd ar fy rhestr i ei weld e hefyd.
Rydw i wedi bod yn gwneud MSN ers tua blwyddyn nawr. Mae pawb yn ei hoffi e. Mae'n wahanol i anfon testun neu ffonio, neu ysgrifennu llythyr. Mae'n fwy modern, yn fwy fel rhith-realaeth.
Roedd gennym ni arholiadau yn ddiweddar felly rydyn ni wedi bod yn siarad llawer am adolygu. Rydyn ni'n siarad am beth rydyn ni'n ei wneud - pethau y byddech chi'n siarad amdanyn nhw ar y ffôn. Tipyn bach o glecs ond dy'ch chi ddim bob amser yn hollol siwr pwy sy'n ei ddarllen e. Fyddech chi ddim yn dweud dim byd rhy eithafol rhag ofn bod rhywun 'na sy'n cymryd arno ei fod yn rhywun arall, oherwydd fe all unrhyw un sydd â'r cyfrinair ddod i mewn.
Y peth mawr nesaf yw mynd at wegamerâu, lle gallwch chi weld gyda phwy rydych chi'n siarad. Bydd hynny'n wych.
Rydw i hefyd yn defnyddio'r we i edrych ar safle Radio 1 am gigs neu beth bynnag. Cyn i mi wneud fy arholiadau, fe es i ar Bitesize gryn dipyn; fe gawsom ni gardiau yn y dosbarth a phethau. Roedd e'n ddefnyddiol. Mae 'na lawer o gwestiynau, does neb yn chwerthin os ydych chi'n eu cael yn anghywir, ac mae'n gynt na chael eich rhieni i ddarllen y llyfr.
Dydw i ddim yn logio i mewn i safleoedd ar gyfer merched yn eu harddegau. Does gen i ddim llawer i'w ddweud wrth y math yna o beth; byddai'n well gen i ddarllen cylchgrawn. Rwy'n mynd ar y we i siarad gyda fy ffrindiau neu i gael gwybodaeth. Dyna fe.
Dydw i ddim yn siwr iawn os oes unrhyw beth ar y cyfrifiadur gartref i sicrhau syrffio diogel. Dyw mam ddim yn deall llawer iawn am gyfrifiaduron. Mae'n codi ofn arna i i feddwl y gallai pobl ddod o hyd i mi ar y we a dechrau dod ar fy ôl i. Dydw i ddim yn mynd i'r ystafelloedd sgwrsio go iawn - mae'n nhw yn codi ofn ar rywun. Yn yr ysgol y bydden ni'n gweld y math yna o beth. Y peth sy'n fy ngwylltio i fwyaf yw'r pethau am ennill arian ac ati, a gwahoddiadau i ystafelloedd sgwrsio lle gallwch chi ddweud o'r lluniau beth sydd ganddyn nhw mewn golwg.
Fe wnaeth fy mrawd a nghefnder i wefan unwaith ond dydw i ddim yn deall sut mae gwneud un, a dweud y gwir. Rwy wedi gwneud cryn dipyn gyda meddalwedd yn yr ysgol; roedd rhaid i ni wneud fideo yn Astudiaethau'r Cyfryngau, ac fe ddefnyddies i'r meddalwedd golygu fideo ar yr iMac.
Dydw i ddim yn defnyddio cymaint ar y cyfrifiadur ag mae fy ffrindiau'n ei wneud. Maen nhw'n ei hoffi fe oherwydd bod ganddyn nhw ddiddordeb yn y cyfrifiadur ei hun; rwy i'n ei hoffi fe oherwydd y pethau syml - MSN a'r we."
Menna, Llandysul