BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Helpu'r ysgol

Mae Anne Davies o Abertawe wedi ymddeol ac mae'n helpu yn Ysgol Sant Joseff.

"Mae fy ffrind a minnau'n mynd i Ysgol Sant Joseff bob dydd Mawrth i wrando ar y plant yn darllen. Mae ar yr ysgol angen gwirfoddolwyr gan nad yw'r athrawon yn gallu gwrando ar y plant yn darllen cyn amled ag y bydden nhw'n hoffi, felly roedden nhw'n awyddus i gael gwirfoddolwyr i helpu.

Rwy'n adnabod rhywun sy'n aelod cyflogedig o'r staff a gofynnodd hi i mi a fyddai gen i ddiddordeb mewn helpu. Rwy wedi ymddeol ac fe gollais i fy ngwr rai blynyddoedd yn ôl, felly mae gen i amser wrth gefn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig eich bod yn gwneud rhywbeth gwerth ei wneud ac mae hyn yn wirioneddol werth ei wneud.

Mae'r plant yn 9 a 10 oed ac rydyn ni'n gwrando arnyn nhw'n darllen bob yn un. Mae'n rhan bwysig iawn o'u haddysg nhw ac mae gallu eistedd a gwrando arnyn nhw'n darllen dwy neu dair tudalen yn rhoi llawer o bleser i ni. Rydyn ni'n ysgrifennu ychydig o sylwadau yn eu llyfrau ar ôl iddyn nhw ddarllen i ni ac weithiau ry'n ni'n cael cyfle i siarad gyda nhw hefyd.

Fe ddechreues i wneud hyn ym mis Hydref y llynedd ac rwy'n edrych ymlaen i fynd i'r ysgol. Dydw i ddim yn gwybod os bydda i gyda'r un plant y flwyddyn nesaf, neu fydda i gyda dosbarth arall, ond rwy'n mwynhau'r gwaith yn fawr. Mae pob un ar lefel wahanol gyda'i ddarllen ac mae gallu pob un yn wahanol, ac mae hyn yn rhoi mwy o amrywiaeth i'r gwaith.

Mae'n ddiddorol i'm ffrind ac i mi oherwydd mae'r ddwy ohonom yn fam-gu ac mae'n braf cael cadw mewn cysylltiad â'r plant. Dydw i ddim yn gwybod a yw'r plant yn edrych arnon ni fel rhyw fath o fam-gu, ond ry'n ni'n sicr yn elwa llawer iawn o'r profiad o fod gyda nhw. Maen nhw'n dweud rhyw storïau bach wrthon ni am gyngherddau pop neu gemau pêl-droed na fydden ni ddim yn eu clywed fel arfer mae'n siwr.

Maen nhw'n ymddangos fel pe baen nhw'n hoffi'n gweld ni'n dod i mewn. Maen nhw'n ddoniol, oherwydd os ydyn ni'n eu gweld nhw yn y coridor maen nhw'n codi llaw arnon ni, sy'n braf iawn. Rwy'n meddwl eu bod nhw'n elwa o'r profiad ac mae'n eu hannog i ddarllen gartre."

Cyngor

"Rwy'n wirfoddolwraig gyda Gofal Henoed ddau hanner diwrnod yr wythnos ac mae mynd i'r ysgol hefyd yn rhywbeth na fyddwn i byth wedi meddwl y byddwn i'n ei wneud a finne wedi ymddeol. Byddwn yn bendant yn annog pobl eraill sydd yn yr un sefyllfa i feddwl am wneud yr un peth.

Mae llawer o gyfleoedd os yw pobl yn barod i chwilio amdanynt, ac mae'n waith sy'n rhoi llawer iawn o bleser. Rwy'n gwybod bod pobl yn gwirfoddoli mewn ffyrdd eraill mewn ysgolion ac rwy'n credu bod pawb yn cael rhywbeth mas ohono fe, oherwydd mae'n helpu'r athrawon a'r plant ac mae'n golygu bod y sawl sy'n rhoi ei amser yn gwneud rhywbeth defnyddiol hefyd."

Anne, Abertawe

Yn yr adran hwn
Cymorth gartref
Cymraeg i Rieni
Ennill Arian
Defnyddio'r cyfrifiadur
Gwaith ar y Rhyngrwyd
Addysgu gartref
Yn yr ysgol
Dewis ysgol
Apelio am le ysgol
Helpu'r ysgol
Dechrau yn yr ysgol
Bwlio
Dewis Pynciau
Plant ag anghenion arbennig
Atgyfnerthiad Cadarnhaol
Nosweithiau rhieni
Helpu’r ysgol
Cyfrannu i fywyd ysgol
Helpu yn y dosbarth
Llywodraethwr Ysgol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy