Mae Seren, 13 oed, o Lantrisant, Morgannwg Ganol, yn defnyddio'r cyfrifiadur ar gyfer gwaith ysgol.
"Rwy'n defnyddio'r cyfrifiadur ar gyfer gwahanol bethau ond yn bennaf ar gyfer gwaith ysgol. Rwy'n cael fy ngwybodaeth i gyd drwy'r Rhyngrwyd. Fe wnes i ddau boster ar gyfer Ffrangeg ar fy nghyfrifiadur gartref - un poster am yr ysgol ac un poster 'yn eisiau'. Fe wnaeth yr athro eu rhoi nhw ar y wal i bawb gael eu gweld.
Fe wnes i bamffled Hanes ar y Tuduriaid ar gyfer yr Urdd, a phoster am Harri'r VIII ar gyfer yr ysgol a chafodd hwn hefyd ei roi ar y wal yn yr ystafell ddosbarth. Fe wnes i hefyd boster A3 ar gyfer Saesneg am Romeo a Juliet. Fe wnes i'r gwaith ysgrifennu a'r lluniau i gyd ar y cyfrifiadur ac wedyn fe dorres i nhw mas a'u gludo ar ddarn o gardfwrdd A3. Rwy hefyd yn gwneud cardiau ar gyfer pen-blwydd pobl a chardiau i ddiolch am anrhegion rwy wedi eu cael.
Rwy'n defnyddio cyfrwng chwilio Google ar gyfer fy ymchwil gan ei fod yn gyflym ac yn hawdd i'w ddefnyddio.
Mae'n ddefnyddiol er mwyn edrych os ydw i wedi cael ebost ac er mwyn logio i mewn i'r clybiau rwy wedi ymuno â hwy (Nick, Vizzavi, Nokia). Mae llawer o gemau da ar safle Nick. Fe ymunais i â Vizzavi a Nokia oherwydd eu bod yn rhoi gwybodaeth i mi am fy ffôn symudol.
Fel arfer rwy'n treulio tua awr y diwrnod ar y cyfrifiadur, os oes gen i amser - mae gen i lawer o waith cartref i'w wneud.
Mae gen i lawer o hoff safleoedd, gan gynnwys The Simpsons, Southpark, Nickelodeon, Monkeycrap. Mae Joe Cartoon yn ddoniol hefyd - mae na lawer o jôcs yno.
Rwy'n ymwybodol iawn bod angen bod yn ofalus wrth syrffio gan mod i wedi darllen erthygl mewn cylchgrawn am baedoffiliaid mewn ystafelloedd sgwrsio a sut maen nhw'n cymryd arnyn eu bod nhw yr un oed â chi ac yn ymatal rhag siarad am ryw rhag ofn eu bod yn eich dychryn chi. Dydw i ddim yn agor pethau (tudalennau a negeseuon ebost) sy'n edrych yn amheus os galla i beidio. Dim ond i safleoedd rwy'n gwybod amdanynt y bydda i'n mynd, a dydw i ddim yn mynd i unrhyw safleoedd oedolion... does gen i ddim diddordeb ynddyn nhw.
Alla i ddim teipio mor gyflym â mam, ond rwy'n un o'r goreuon yn fy nosbarth TG, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r plant sydd yn fy nosbarth i'n teipio gydag un bys. Rwy'n gallu gwneud rhyw fath o deipio-cyffyrddiad, ond rwy'n edrych ar fy nwylo."
Cyngor
"Os ydych chi'n syrffio'r we, ac yn mynd i ystafelloedd sgwrsio, efallai y dewch ar draws pobl sy'n cymryd arnynt eu bod yn rhywun arall - byddwch yn ofalus."
Seren, Llantrisant