Mae Ceri Meazey o Gaerdydd yn fam i ddau o blant ac yn gweithio fel dyranwraig. Methodd â chael lle i'w mab ieuengaf yn yr ysgol o'i dewis.
"Ein dewis cyntaf oedd ysgol gynradd cyfagos i'n cartref yng Nghaerdydd. Doedden ni ddim yn nalgylch yr ysgol hon, ond hon ddewison ni, oherwydd bod ein mab hynaf yn mynd yno, ac roedden ni am i'r ddau fod yn yr un ysgol. Mae cael dau blentyn mewn ysgolion gwahanol yn anodd iawn wrth reswm. Ar ben hyn, roedd ein mab ieuengaf wedi bod yn mynd i'r ysgol feithrin ar safle'r ysgol, roedd e wedi bod yn cael ei warchod yn agos at yr ysgol ac roedd e wedi gwneud ffrindiau yno. Roedd e hefyd wedi bod yn mynd i'r ysgol gyda fi er pan oedd e'n ddim o beth i ddanfon ei frawd mawr yn y boreau. Roedd e wedi arfer gyda'r ysgol, y staff, a llawer o'r plant, yn enwedig ffrindiau ei frawd mawr.
Pan gafodd y ceisiadau ar gyfer mynediad i'r dosbarth derbyn eu hadolygu, gwrthodwyd mynediad i'n mab ieuengaf ac un plentyn arall yn y dosbarth meithrin oherwydd y byddai'r dosbarthiadau'n rhy fawr, gan mai 60 lle oedd wedi eu neilltuo, 30 yr un yn y ddau ddosbarth derbyn. Gwrthodwyd y ddau gan fod yr AALl wedi defnyddio'u polisi derbyn eu hunain ac wedi honni na allent yn gyfreithlon gael mwy na 30 ym mhob dosbarth derbyn. Rhoddwyd blaenoriaeth i 52 o blant o'r dalgylch yn hytrach na rhai fel ni oedd o'r tu allan i'r dalgylch.
Ar y pryd roedd 10 o'r ceisiadau'n rhai lle roedd gan blant o'r tu allan i'r dalgylch frodyr neu chwiorydd yn mynychu'r ysgol yn barod. Dyrannwyd y lleoedd drwy roi blaenoriaeth i'r rhai oedd â'r brawd neu'r chwaer ieuengaf. Ein mab hynaf oedd yr hynaf o'r brodyr a'r chwiorydd hy^n (o ychydig wythnosau yn unig), felly gwrthodwyd lle i'n mab ieuengaf.
Ar ôl y gwrthodiad cyntaf, anfonodd yr AALl ffurflen aton ni er mwyn i ni gael apelio yn erbyn y penderfyniad. Sail ein hapêl ni oedd amgylchiadau personol h.y. y problemau rhesymegol sy'n gysylltiedig â chael plant ifanc mewn dwy ysgol wahanol, gofal plant a oedd wedi ei drefnu'n barod, cyflwr meddygol ein mab ieuengaf (asthma), a'r ffaith ei fod eisoes wedi dod yn rhan o grwp o blant yn y dosbarth meithrin a fyddai'n mynychu'r ysgol, a'r effaith emosiynol y byddai ei anfon i ysgol gwbl anghyfarwydd yn ei gael, o ystyried gystal roedd e wedi dod i arfer â'i ysgol presennol.
Cefnogwyd ein cais i apelio gan lythyrau gan ein meddyg teulu, ein Haelod Seneddol a'n Haelod o'r Cynulliad, ynghyd â llythyr yn mynegi pryder gan fy nghyflogwr, ar y sail y gallai gorfod gollwng plant ifanc mewn gwahanol ysgolion achosi problemau h.y. cyrraedd y gwaith mewn pryd, ac yn y blaen.
Ni chawsom unrhyw gyngor gan yr ysgol na'r awdurdod lleol ac aethom i'r apêl heb gynrychiolaeth gyfreithiol. Roedd y panel apêl wedi cael cyfarwyddyd gan yr AALl i beidio ag ystyried amgylchiadau personol gan ei bod yn amlwg y byddai'r dosbarth yn rhy fawr. Ar y sail hon y gwrthododd y Panel Apêl ein cais. Erbyn hyn, roedden ni wedi derbyn y penderfyniad, gan feddwl bod y Cyngor wedi gweithredu'n briodol ac yn gyfreithlon. Roedden ni'n credu eu bod nhw'n cael eu cyfarwyddyd ynghylch eu polisi derbyn gan y llywodraeth ganolog. Ond nid felly yr oedd hi. Mae'r AALl yn defnyddio ei ddehongliad ei hun o'r gyfraith.
Ar ôl penderfyniad yr apêl, fe dderbynion ni le mewn ysgol arall. Roedden ni'n ffodus iawn fod ffrind yn gallu helpu i fynd a'n mab ieuengaf i'r ysgol tra ro'n i'n mynd â'i frawd i ysgol wahanol.
Beth amser yn dilyn yr apêl, fe glywodd un o gydweithwyr fy ngwr am ein hachos ac anfonodd ddadleuon cyfreithiol a oedd wedi eu defnyddio yn eu hachos hwy yn erbyn yr un awdurdod. Yr un pryd, holodd ein Haelod Seneddol sut roedd pethau wedi mynd gyda'r apêl, a phan ddywedon ni wrthyn nhw am y dadleuon cyfreithiol, fe gysyllton nhw â'r Cynulliad Cenedlaethol, a chawsom ein cynghori i ddefnyddio'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Roedd yr AALl yn amheus o awdurdod yr Ombwdsmon a gwrthododd ailystyried y penderfyniad yng ngoleuni'r dadleuon cyfreithiol a gyflwynwyd iddo.
Argymhellodd yr Ombwdsmon ein bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol, felly fe gysyllton ni â chyfreithiwr a oedd yn arbenigwr mewn cyfraith addysg. Cyflwynodd bapurau adolygiad barnwrol i'r Uchel Lys yn fuan iawn. Pan glywodd yr AALl hyn cyfaddefodd ar unwaith bod yr apêl gwreiddiol wedi bod yn anghywir a chynigodd wrandawiad apêl arall i ni.
Rwy'n credu mai er mwyn osgoi costau a chyhoeddusrwydd mynd i'r llys yr oedd hyn, gan fod y dadleuon cyfreithiol yn eu herbyn mor gryf a hwythau wedi colli achosion apêl ar seiliau tebyg o'r blaen. Cawsom ein cynrychioli yn yr apêl gan ein cyfreithiwr, a chan fod y ddadl gyfreithiol yn erbyn yr awdurdod mor gryf, roedd penderfyniad y panel apêl yn unfrydol o'n plaid."
Cyngor
"Er bod yr holl broses wedi costio llawer iawn o arian, o ran ffioedd cyfreithiol, roedd y cyfan werth e. Mae ein mab ieuengaf nôl yn Llanisien Fach erbyn hyn gyda'i frawd a'i hen ffrindiau; mae'n llawer hapusach ac mae'n edrych ymlaen i fynd i'r ysgol nawr. Ein cyngor ni i unrhyw rieni eraill yw gofynnwch am gyngor cyfreithiol cyn gynted ag y gallwch, os yn bosib gan arbenigwr mewn Cyfraith Addysg. Er bod hyn wedi dangos bod polisi derbyn yr AALl yn ddiffygiol, does dim sicrwydd y byddan nhw'n ei newid e. Maen nhw'n ymddangos fel pe baen nhw'n fodlon gadael i rieni dalu er mwyn eu herio nhw'n gyfreithiol mewn Apêl.
Fe fyddwn i'n cynghori unrhyw rieni i fod yn wyliadwrus o unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud gan yr AALl yn eu herbyn ac i ofyn am gyngor cyfreithiol ar unwaith a chael eu cynrychioli mewn gwrandawiadau apêl. Gallai fod yn ddrud, ond yn y tymor hir, ac yn enwedig er lles y plant, mae e werth e. Dylid osgoi'r hunllef rhesymegol o fod â phlant ifanc mewn dwy ysgol wahanol os yw hynny'n bosib, ynghyd â'r effeithiau emosiynol niweidiol ar y plant.
Mae'r gyfraith yn nodi bod gennych hawl i ddweud i ba ysgol yr hoffech weld eich plant yn mynd, ac i ddweud pam. Mae hyn yn cael ei nodi yn neddfwriaeth y DU a hefyd mewn deddfwriaeth Hawliau Dynol Ewropeaidd. Mewn gwirionedd, gyda'r ffurflen i wneud cais am le mewn ysgol, does dim rhaid i rieni sydd yn nalgylch yr ysgol roi rhesymau dros yr ysgol o'u dewis, felly y rhai hynny o'r tu allan i'r dalgylch, sy'n gorfod rhoi rhesymau dros eu dewis, yw'r rhai sy'n cydymffurfio â'r gyfraith, ac yn dechnegol nhw ddylai gael blaenoriaeth. Mae'n werth edrych ar ffurflenni cais a fydd yn cael eu hanfon gan yr AALl yn y dyfodol.
Er gwaetha'r achosion yn eu herbyn, rwy'n teimlo na fyddant yn trafferthu i newid y ffurflenni, dim ond gadael i rieni wario ar ffioedd cyfreithiol a'u herio mewn apêl."
Ceri, Caerdydd