Mae Marian Davies, 55, yn athrawes ysgol gynradd yn Sir Benfro.
"Rwy'n gwybod bod rhai rhieni'n poeni bod plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael eu hintegreiddio i mewn i addysg brif ffrwd, ond ar ôl dysgu llawer o ddisgyblion AAA yn fy nosbarth, rwy'n credu eu bod nhw, yn ogystal â'r disgyblion eraill, yn elwa o'r trefniant.
Does 'na ddim rheswm pam na all plant AAA ymuno yn y rhan fwyaf o'r gwersi a bod yn rhan ohonynt. Roedd gen i fachgen o'r enw Dewi oedd â Syndrom Down yn fy nosbarth am dair blynedd. Fydde fe'n dod i'r gwersi ac yn gwrando ac yn cymryd rhan ym mhob un, ac fe fydden i'n gwneud yn siwr ei fod e bob amser yn rhan o'r dysgu. Fe ddaeth e yn ei flaen yn dda iawn. Erbyn yr adeg roedd e'n naw oed, gallai ddarllen unrhyw beth roddech chi o'i flaen e, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Rwy'n cofio unwaith, ar drip ysgol i eglwys, roedd yr ymwelwyr eraill wedi'u synnu o'i glywed e'n darllen yr holl hysbysiadau oedd ar ddrws yr eglwys. Yr wythnos ganlynol, roedd 'na lythyr yn y papur lleol yn canmol y plentyn a'r ysgol. Roedd e wrth ei fodd yn darllen, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac er nad oedd e'n deall ystyr pob gair, roedd e'n gallu cofio patrwm gair yn berffaith. Mae e yn yr ysgol uwchradd nawr a Ffrangeg yw ei hoff bwnc e.
Wrth gwrs all disgyblion fel Dewi sydd ag AAA ddim gwneud yr un gwaith yn union â'r disgyblion eraill - byddwn i'n rhoi gwaith i Dewi oedd yn addas ar gyfer ei lefel e. Byddai ar yr un pwnc neu thema yn gwmws â gweddill y dosbarth fel nad oedd e'n teimlo ei fod e'n cael ei adael mas neu'n cael ei ynysu e.e. os mai afonydd oedd y pwnc, byddai ei waith e'n ymwneud â'r afon a oedd yn mynd heibio'i dy e - rhywbeth y gwyddai e amdano - tra byddai'r disgyblion eraill yn edrych ar afonydd yn yr ystyr ehangach. A thra byddai gweddill y dosbarth yn dysgu deg gair newydd, byddai e'n dysgu pump. Byddai'r gwaith i gyd yn cael ei addasu ar gyfer ei lefel e.
Ond mae hefyd yn bwysig gwneud yn siwr nad yw gwaith ar gyfer disgyblion AAA yn rhy hawdd a'i fod e yn cynnig her iddyn nhw ac yn eu helpu i symud yn eu blaenau. Fel y plant eraill, byddai Dewi'n mynd â gwaith gartre, a'i rieni'n ei helpu e i'w wneud.
Os oes gennych chi blentyn sydd ag AAA, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cadw mewn cysylltiad agos â'i athro/athrawes a'i gynorthwy-ydd dosbarth. Mae llyfr cyswllt yn ffordd dda o wneud hyn - os oedd gen i unrhyw beth i'w ddweud wrth rieni Dewi, fe fydden i'n ysgrifennu ynddo fe. Neu, os oedd problem gartre, byddai ei rieni yn ysgrifennu ynddo fe er mwyn rhoi gwybod i mi. Yn achos Dewi, roedd ei rieni'n byw heb fod ymhell o'r ysgol ac yn dod ag e i'r ysgol bob diwrnod, felly roedden ni'n cadw mewn cysylltiad agos fel'ny, oedd yn gymorth mawr.
Roedd y plant eraill yn meddwl y byd ohono fe a doedd 'na byth broblemau gyda bwlio. Roedden nhw wedi bod gydag e yn y dosbarth ers dyddiau'r ysgol feithrin ac roedd e wedi cymryd rhan ym mhob cyngerdd, côr, gêm bêl-droed, ac yn y blaen - doedd neb byth yn gas gydag e. Yr unig adeg y gwelais i rywun yn chwerthin ar ei ben oedd pan ddaeth plant newydd i'r dosbarth - doedden nhw ddim yn ei adnabod e. Bydde fe'n chwarae allan gyda phawb arall yn ystod amser chwarae ac amser cinio.
Roedd e'n boblogaidd iawn - cymeriad a hanner. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn fy nosbarth i, fe fu e'n sâl am rai wythnosau ac yna bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth i dynnu ei donsils. Roedd e wedi sylweddoli ei fod e wedi cael ei esgusodi rhag gwneud gwaith bob dydd yn y dosbarth tra roedd e'n wael, a phan ddaeth e'n ôl i'r ysgol ar ôl ei lawdriniaeth, os nad oedd e am wneud rhywbeth, fe fydde fe'n dweud wrtho i, "Miss, ma' nhonsilis i'n dost" a fynte newydd gael eu tynnu nhw!"
Cyngor
"Cyn i'ch plentyn chi ddechrau yn yr ysgol, ewch i'r ysgol a siaradwch gyda'r athro/athrawes a'r cynorthwy-ydd dosbarth. Ceisiwch gael pob cymorth posib gan staff yr ysgol, y llywodraethwyr, yr awdurdod iechyd a'r awdurdodau lleol. Ond peidiwch â bodloni ar hynny - gwnewch yn siwr eich bod yn dal i weithio mewn cysylltiad agos â'r ysgol drwy gydol addysg eich plentyn.
Mae anghenion pob plentyn yn wahanol felly ceisiwch ddarganfod a oes arnoch angen cymorth therapydd lleferydd, ac yn y blaen. Mae ar rai plant sydd ag anghenion arbennig angen ffisiotherapi hefyd. Y peth pwysig yw cofio bod gan wahanol blant anghenion gwahanol ac mae angen i chi ymateb i hyn.
Cofiwch fod gan bob plentyn botensial ond bod angen i ni eu helpu i wneud eu gorau.
Mae cyfleoedd i gymysgu gyda phlant eraill yn bwysig bob amser."
Marian, Sir Benfro