BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Cymraeg i Rieni

pandoraMae Pandora George yn 36 oed, ac yn fam lawn-amser sy'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gwr a'i dau blentyn.

"Pan ddechreuodd fy merch i mewn ysgol gynradd Gymraeg do'n i ddim yn gallu siarad gair o Gymraeg, ac i fod yn onest, roedd y sefyllfa'n codi ofn arna i. Ro'n i wir yn poeni na fyddwn i'n gallu ei helpu hi gyda'i gwaith cartref na siarad gyda'i hathrawon, heb sôn am ddeall beth ar wyneb y ddaear oedd yn digwydd yn y cyngerdd Nadolig.

Ro'n i'n teimlo bod y Cymry'n dod o'r blaned Mawrth a finne o'r blaned Fenws - er mai un o Essex ydw i go iawn! Roedd gen i ychydig o broblem gyda fy agwedd, felly er mwyn ceisio dod drosti, fe ymunais â dosbarth Cymraeg i Rieni a pharatoi i chwalu fy ofnau gyda 2 awr yr wythnos o Pobol Y Cwm, neu rywbeth.

Mae'r cwrs, sy'n para am ddwy flynedd, yn gyflwyniad hamddenol iawn i'r iaith - y syniad yw eich bod chi'n gwneud rhywbeth tebyg yn y dosbarth i'r hyn y mae'ch plentyn chi'n ei ddysgu yn yr ysgol. Yn ystod yr wythnosau cyntaf roedden ni'n canu llawer o hwiangerddi, ond roedd y ffordd undonog roedden ni'n mwmian y geiriau'n codi cywilydd mawr arna i. Ar ôl y caneuon daeth Gweddi'r Arglwydd gyda seren aur fel gwobr - nid lle yn y nefoedd. Ond roedd y dysgu'n anodd, ac erbyn wythnos pedwar roeddwn i'n dechrau poeni.

Er mwyn fy helpu i gyda'r gwersi, mi wnes i roi lluniau o rannau o gorff Po ar waliau'r gegin a'r Anthem Genedlaethol yn y ty bach. Roedd rhai o'r bobl ddaeth i'n ty ni'n meddwl mod i'n mynd yn wirion. Y cyfan roedd fy mhlant i'n ei wneud oedd syllu arna i pan o'n i'n ymarfer caneuon clapio, gyda geiriau hollol aneglur, ac roedden nhw'n grac pan wnes i ddod â'r cyfarwyddiadau Cymraeg ar gyfer gwneud basged Basg gartre - neu efallai mai bisged oedd e i fod?

Roedd fy merch i'n gwneud i mi deimlo bod pob peth ro'n i'n ceisio'i wneud yn ofer. Fe fu un adeg dorcalonnus pan ddywedodd hi wrthon ni bod "ei hymennydd hi'n rhy fach i ddysgu Cymraeg", ond ar ôl hynny dyma hi'n dechrau cymryd yr iaith i mewn ar gyflymder anhygoel. Mae hi'n wirioneddol falch ei bod hi'n gallu siarad iaith arall ac mae e wedi rhoi hyder iddi hi ac ymdeimlad gwirioneddol o berthyn.

Yr hyn sy'n eironig yw ei bod hi'n gwrthod gadael i mi ymarfer arni hi: "No, mummy, you speak English", meddai hi. Ond mae hi'n bachu ar unrhyw gyfle i fy mychanu i drwy gywiro fy Nghymraeg i fel athrawes ysgol. Dyw hi ddim yn hawdd cael fy mychanu gan fy mhlentyn pedair oed. O leiaf rwy'n gallu troi at fy mab, sydd wrth ei fodd yn dysgu gyda mi. Dyw e ddim yn gallu siarad eto felly does 'da fe ddim dewis."

Cyngor

"Os nad yw'ch plentyn chi'n ddwyieithog pan fo'n dechrau yn yr ysgol bydd arno angen eich help chi, ac ar gyfer hynny mi fydd arnoch chi angen geiriadur lluniau o leiaf.

Ceisiwch fod un cam ar y blaen. Dysgwch yr iaith cyn i'r plant ddechrau yn yr ysgol fel nad ydyn nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na chi."

Pandora, Caerdydd

Yn yr adran hwn
Cymorth gartref
Cymraeg i Rieni
Ennill Arian
Defnyddio'r cyfrifiadur
Gwaith ar y Rhyngrwyd
Addysgu gartref
Yn yr ysgol
Dewis ysgol
Apelio am le ysgol
Helpu'r ysgol
Dechrau yn yr ysgol
Bwlio
Dewis Pynciau
Plant ag anghenion arbennig
Atgyfnerthiad Cadarnhaol
Nosweithiau rhieni
Helpu’r ysgol
Cyfrannu i fywyd ysgol
Helpu yn y dosbarth
Llywodraethwr Ysgol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy