Mae Joseph Edwards, 14, yn ddisgybl Lefel 9 yn Ysgol Uwchradd Caerleon, Casnewydd.
"Fy mhynciau TGAU yw dwbl gwyddoniaeth, Almaeneg, daearyddiaeth, hanes ac economeg. Ro'n i'n mynd i gymryd cerdd ond perswadiodd fy nhad fi i gymryd economeg. Rwy'n mwynhau gwneud cerddoriaeth y tu allan i'r ysgol ac roedd e'n meddwl y byddai'n beth da i mi barhau gydag e, ond nid yn yr ysgol. Rwy'n chwarae'r trombôn a'r piano ac fe fydda i'n dal i wneud hynny. Ond rwy'n meddwl y gwnaf i astudio cerdd safon AS mae'n debyg.
Mae'n debyg mod i'n eitha academaidd ac mae'r rhan fwyaf o'm ffrindiau wedi mynd am ddewisiadau tebyg, er bod rhai wedi mynd am ddewisiadau haws - mae 'na wastad rywun sy'n rhoi pin yn rhywle ar y papur ac yn penderfynu fel'ny! Ond mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi dewis gwneud dwbl gwyddoniaeth ac iaith.
Rwy wedi bod yn astudio Almaeneg ers bron i ddwy flynedd. Dydw i ddim yn gwybod pa bynciau y bydda i'n eu gwneud ar gyfer Safon A na pha yrfa y byddwn i'n ei dewis, ond dydw i ddim yn poeni. Dydw i ddim wedi meddwl cyn belled â hynny eto.
Dyw dewis y pynciau hyn ddim wedi bod yn hawdd, ond rwy'n meddwl bod pethau wedi bod yn iawn i'r rhan fwyaf ohonon ni. Mae'r rhain yn benderfyniadau eitha pwysig ac fe drefnodd yr ysgol ddau gyfarfod i'n helpu ni, ond fethes i â mynd achos mod i'n dost. Pan oedden ni'n paratoi ar gyfer y dewisiadau, fe gawson ni lythyr hir yn egluro beth i'w wneud, a digon o wybodaeth, ac fe drafododd fy rhieni bethau gyda fi. Fy mhenderfyniad i oedd cymryd y pynciau dewisol, ond eu bod nhw wedi fy helpu i i'w wneud e.
Mae'n edrych fel pe bai'r rhan fwyaf o'm ffrindiau i wedi siarad gyda'u rhieni am y dewisiadau a pha rai yw'r rhai gorau iddyn nhw. Fe glywes i fod un fam wedi ymyrryd ym mhenderfyniad ei mab a doedd e ddim yn rhy hapus. Rwy'n falch na ches i'r broblem honno."
Cyngor
Yn ôl Sherene, mam Joe: "Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni fel rhieni'n cael gwybod beth yw'r dewisiadau sydd gan ein plant ni a'n bod ni'n gallu didoli unrhyw wybodaeth anghywir neu rywbeth sydd ddim yn wir. Er mwyn Joe roedden ni eisiau cael ein cynnwys, ond ar adeg y dadansoddiad terfynol ei benderfyniad e oedd e.
Y peth drawodd ni oedd pa mor gyflym mae'r amser i ddewis pynciau'n dod rownd. Ych chi'n gwybod ei fod e'n mynd i ddigwydd, ond yna mae'ch plentyn chi'n gorfod gwneud penderfyniadau pwysig iawn sy'n amlwg yn mynd i effeithio ar weddill ei fywyd.
Ar ôl dweud hynny, mae'n rhaid eu rhoi nhw yn eu cyd-destun. Fe ddywedodd Joe wrthon ni y gallai e newid ei feddwl yn ystod chwe wythnos gyntaf ei TGAU pe na bai e'n hapus â phethau, ond rwy'n siwr ei fod e wedi gwneud y penderfyniadau cywir.
Rwy'n falch iawn ei fod e wedi cymryd iaith fodern a'i fod e'n hapus gyda'r dewisiadau mae e wedi'u gwneud. A dyna sy'n bwysig ar ddiwedd y dydd.
Mae'r ysgol wedi bod yn barod iawn i helpu os oedd rhywun angen help neu eglurhad. Mae'n amlwg eu bod nhw'n sylweddoli amser mor bwysig yw hwn ac maen nhw wedi cynnig llawer o help i'r plant.
Bydd ein mab arall yn gorfod gwneud y penderfyniadau hyn y flwyddyn nesaf ac rwy'n credu y byddwn ni mewn sefyllfa well i helpu y tro nesaf."
Joseph, Casnewydd