Gelwir addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg yn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae dwyieithrwydd yn bwysig i blant yng Nghymru - effeithir ar ddewisiadau a chyfleoedd plentyn, drwy gydol ei oes, gan ei allu i siarad un iaith, dwy iaith neu nifer o ieithoedd.
Daeth Cymraeg yn bwnc gorfodol i bob disgybl yng Nghymru yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 (h.y. hyd at 14 oed) yn 1990. Yn 1999, daeth yn bwnc gorfodol yng Nghyfnod Allweddol 4. Felly mae pob disgybl mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru bellach yn astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf neu fel ail iaith) am 12 mlynedd, o 5 i 16 oed. Nid yw'r ddarpariaeth mewn ysgolion annibynnol (preifat) mor gyffredin - mae rhai'n dysgu Cymraeg fel ail iaith ond nid oes ysgol breifat Gymraeg ddynodedig yng Nghymru (er bod un yn Llundain).
Felly, oni bai ei fod yn mynd i un o'r ychydig ysgolion preifat sydd yng Nghymru, bydd eich plentyn naill ai'n cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, neu'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Gan ddibynnu ym mhle yng Nghymru rydych yn byw, mae'n bosib y byddwch yn gallu dewis a yw'ch plentyn yn mynychu ysgol sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf neu drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf.
Mae yna lawer i feddwl amdano felly dyma ychydig o wybodaeth i'ch helpu: