Mae'n rhaid i awdurdodau addysg lleol (AALlau) roi cyfle i rieni ddweud i ba ysgol y byddai'n well ganddynt hwy i'w plentyn fynd - ac mae'n rhaid i'r awdurdod ganiatáu i'r plentyn fynd i'r ysgol honno os yw hynny'n bosib. Y rheswm am hyn yw bod gan rieni hawl i ddewis pa fath o addysg y mae eu plant yn ei gael; nodir yr hawl hon yn Y Datganiad Byd-Eang ar Hawliau Dynol (1948) ac yn neddfwriaeth y rhan fwyaf o wledydd y GE.
Wrth gwrs, nid yw'r ffaith eich bod yn enwi'r ysgol o'ch dewis yn gwarantu lle - efallai fod yr ysgol yn llawn. Rhaid i'r AALl/ysgol roi datganiad clir i rieni yn nodi eu polisïau derbyn a'r meini prawf sy'n eu helpu i benderfynu a ellir derbyn plentyn i ysgol benodol. Mae'r rhan fwyaf o blant yn mynychu eu hysgol leol o hyd.
Os nad ydych yn fodlon â'r penderfyniad a wnaethpwyd ynghylch eich plentyn, gallwch apelio. Gwrandewir ar apeliadau gan bwyllgorau annibynnol, a'r Ombwdsman sydd â'r gair olaf. Mae gan bob AALl fanylion am y Trefniadau Apelio.