Y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru
Fframwaith a ddarparwyd gan y Llywodraeth yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a'i bwrpas yw nodi beth mae'n rhaid ei ddysgu i blant yn yr ysgol, a pha bryd. Fe'i bwriadwyd er mwyn darparu sylfaen dda mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth.
Rhannwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol cynradd yn wahanol Gyfnodau Allweddol:
- Cyfnod Allweddol 1: Blynyddoedd 1 a 2, 5-7 oed.
- Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 3 6, 7-11 oed.
Beth yw'r Cwricwlwm Cymreig?
Mae'r Cwricwlwm Cymreig yn rhan o'r cwricwlwm sy'n arbennig i Gymru. Fe'i bwriadwyd er mwyn adlewyrchu hanes, daearyddiaeth a diwylliant Cymru a'ch ardal chi.
Mae'r Cwricwlwm Cymreig yn helpu i ddatblygu:
- ymdeimlad o berthyn
- ymdeimlad o le a threftadaeth
- ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith a llenyddiaeth yn hanes a bywyd Cymru
- dealltwriaeth o'r celfyddydau creadigol a mynegol yng Nghymru.
Beth sy'n rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol?
Mae amrediad eang o bynciau yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac fe'u rhannwyd yn bynciau craidd a phynciau sylfaen.
Rhoddir pwyslais arbennig ar y pynciau craidd:
- Saesneg
- Cymraeg (fel iaith gyntaf)
- Mathemateg
- Gwyddoniaeth
Pynciau sylfaen:
- dylunio a thechnoleg
- technoleg gwybodaeth
- hanes
- daearyddiaeth
- cerddoriaeth
- celfyddyd
- addysg gorfforol
Mae'n rhaid i blant hefyd astudio addysg grefyddol yn ôl y maes llafur a nodwyd gan eu hawdurdod lleol. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion hefyd yn darparu addysg bersonol a chymdeithasol.
Safonau
Rhannwyd pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn gyfres o lefelau ar raddfa genedlaethol o 1 i 8. Mae'r lefel yn dangos pa safon y mae plentyn wedi ei chyrraedd. Mae lefelau fel grisiau ysgol ac mae plant yn dringo i fyny'r grisiau hyn o'r naill flwyddyn i'r llall.
- Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, bydd y rhan fwyaf o blant yn gweithio o fewn lefelau 1 i 3. Bydd y rhan fwyaf yn cyrraedd lefel 2
- Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd y rhan fwyaf o blant yn gweithio o fewn lefelau 2 i 5. Bydd y rhan fwyaf yn cyrraedd lefel 4.
Ar ddiwedd pob Cyfnod Allweddol, dywedir wrthych ar ba lefel y mae'ch plentyn yn gweithio mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth. Asesir y lefelau hyn gan athrawon pan fo plant yn 7 oed, a chan ddefnyddio tasgau a phrofion cenedlaethol (TASau) pan fônt yn 11 oed.