BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Disgyblaeth yn yr ysgol

1 Disgyblaeth yn yr ysgol
2 Bwlio
3 Triwantiaeth

4 Gwahardd disgyblion o ysgol
Disgyblaeth yn yr ysgol

Mae'r rhieni a'r ysgol yn rhannu'r cyfrifoldeb am hybu gwerthoedd a safonau a fydd, gobeithio, yn helpu pobl ifanc i sefydlu canllawiau ymddygiad cadarn ar gyfer eu bywydau. Mae'n bwysig bod rhieni'n gweithio mewn partneriaeth gydag ysgol eu plentyn, yn hytrach na gadael y cyfan i'r ysgol - mae ymdrin â phroblemau disgyblaeth yn llawer mwy effeithiol os yw'r rhieni a'r ysgol yn ceisio gwneud yr un peth!

Rydym i gyd yn rhan o gymdeithas a bydd ein hymddygiad yn adlewyrchu gwerthoedd a moesau'r dydd. Mae'n hawdd iawn dylanwadu ar bobl ifanc ac maent yn agored iawn i niwed - mae llawer o'u hymddygiad yn cael ei ddysgu, a byddant yn efelychu ac yn gweithredu'r hyn y maent yn ei weld yn ffasiynol ac yn atyniadol.

Mae gan ysgolion llwyddiannus ddisgwyliadau uchel, o ran disgyblaeth, ac maent yn hybu perthynas dda rhwng plant a staff. Maent yn gwybod bod mwy i'r peth na sut y mae plant yn ymddwyn yn yr ysgol - mae'n ymwneud â dechreuad da ar gyfer gweddill eu bywydau.

Cofiwch, pan fo ymddygiad drwg plentyn yn dod yn nodwedd barhaol o'i fywyd - ac o'ch bywyd chi fel rhiant - mae'n bwysig ystyried beth yw gwraidd yr ymddygiad, yn ogystal â ffyrdd o ddelio gydag ef. Ydy'r plentyn yn cael anawsterau dysgu? Ydy'r plentyn yn cael problemau rhywiol neu broblemau yn ymwneud â pherthynas? Beth am gyffuriau? Cewch wybodaeth am y pynciau hyn ar y safle hwn.

Polisïau disgyblaeth ysgolion

disgyblaethMae ymddygiad aflonyddgar yn peri pryder i ysgolion a rhieni ac i gyd-ddisgyblion, y gall eu haddysg fod yn dioddef. Felly ni ellir ei anwybyddu, a rhaid i ysgolion gael polisi ymddygiad a disgyblaeth y mae pawb yn ei ddeall. Bydd ysgol dda'n croesawu sylwadau yn ymwneud â disgyblaeth gan rieni a gofalwyr.

Yn ogystal â materion ehangach yn ymwneud â disgyblaeth, dylai polisi ysgol ymwneud â bwlio, aflonyddu hiliol a rhywiol a'r cosbau y gall yr ysgol eu cyflwyno os yw'r pethau hyn yn digwydd.

Mae angen i bawb ddeall yn iawn beth sydd yn dderbyniol a beth nad yw'n dderbyniol. Mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn sylweddoli bod angen ysgol ddisgybledig, maent yn deall chwarae teg ac yn aml yn barod i gydnabod camymddygiad ar eu rhan.

Meddwl yn gadarnhaol
Mae ysgolion sydd ag ethos cadarnhaol yn meithrin ymdeimlad o bwrpas ac o falchder ymhlith eu staff a'u disgyblion - mae pawb yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi. Mae canmoliaeth yn wobr dda a bydd fel arfer yn ennyn ymateb cadarnhaol, ac mae ysgolion sy'n pwysleisio'r cadarnhaol fel arfer yn dda am ddisgyblu hefyd.

Weithiau bydd staff yn cyd-drafod targedau ymddygiad neu gontractau ysgrifenedig gyda phlentyn ac yn gwobrwyo ymddygiad da. Mae rhai ysgolion yn gwobrwyo disgyblion â sêr, ac eraill â phwyntiau, tocynnau arian neu dystysgrifau yn seiliedig ar glod ac anogaeth. Mae gan rieni ran gefnogol iawn i'w chwarae wrth helpu plant i gyflawni'r targedau hyn.

Mae'n bwysig bod pobl ifanc, beth bynnag eu gallu, yn teimlo bod modd iddynt lwyddo. Mae methiant dro ar ôl tro yn ennyn anniddigrwydd. Yn yr un modd, mae'n bwysig bod y plant eu hunain yn deall bod agweddau ac ymddygiad cadarnhaol yn bethau da, a bod mwy i'r peth na chael canmoliaeth neu wobr.

Mae rhai ysgolion yn annog pobl ifanc i fonitro eu hymddygiad eu hunain, a gall hyn fod yn rhan gadarnhaol a gwerthfawr o addysg disgyblion.

Ymddygiad drwg
Mae angen i bawb ddeall bod cysylltiad amlwg rhwng ymddygiad a chanlyniad. Rhaid i ddisgyblion ddysgu y bydd ymddygiad annerbyniol yn arwain at gosb briodol.

Does neb eisiau gorymateb i fân achosion o gamymddwyn, lle gall hiwmor yn aml gael gwared ar densiwn, ond mae angen delio gydag aflonyddu difrifol ar unwaith.

Lle bo ymddygiad drwg yn digwydd fwy nag unwaith, mae cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni'n hollbwysig - mae'r staff a'r rhieni mewn partneriaeth. Ambell waith gall gohebiaeth ysgrifenedig neu alwad ffôn gan un 'partner' i'r llall sicrhau nad yw problemau'n gwaethygu.

Pan fo ymddygiad annerbyniol yn digwydd o hyd, gall athro/athrawes amddifadu plentyn o freintiau, pennu cosb, neu wneud 'adroddiad' ynghylch y mater er mwyn ei fonitro'n fanylach. Gall athrawon ddweud wrth blentyn am aros ar ôl ar ddiwedd sesiwn. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid iddynt roi rhybudd ysgrifenedig i'r rhieni o leiaf 24 awr ymlaen llaw, gan nodi'r rheswm pam bod y plentyn yn gorfod aros ar ôl.

Mae cosb gorfforol yn anghyfreithlon - ni ddylai unrhyw un ystyried taro plentyn. Ar adegau prin, caniateir grym rhesymol mewn ysgol er mwyn rheoli neu atal pan fo dulliau eraill wedi methu. Ni ddylai hyn fyth fod yn gosb, ni ddylai beri niwed, ac ni ddylai gael ei wneud gyda'r bwriad o fychanu. Os yw'n digwydd, dylid hysbysu'r rhieni a dylid dweud wrthynt pam bod angen gwneud yr hyn a wnaethpwyd.

Bydd gwahardd plentyn o ysgol (am gyfnod penodedig neu'n barhaol) bob amser yn cael ei wneud fel dewis olaf, a dim ond mewn ymateb i ddiffyg disgyblaeth difrifol neu pan allai niwed ddigwydd. Mae'n rhaid i benaethiaid ac awdurdodau addysg lleol ddilyn trefniadau pendant iawn wrth wahardd plentyn, ac mae gan rieni bob amser hawl i apelio yn erbyn y gwaharddiad.

Gwefannau defnyddiol:
Department for Education and Skills. Gwybodaeth a chyngor.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 1 o 4|1234Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy