Mae yna ddywediad yn Saesneg: "Sticks and stones may break my bones, but names will never hurt me." Mae'n beth dewr iawn i'w ddweud, ond yn achos y rhan fwyaf o blant, mae'n bell o fod yn wir. Mae cam-drin corfforol yn gyffredin, ond gall camdrin drwy ddefnyddio geiriau achosi'r un faint o boen â thrais corfforol, a thra bo briwiau a chleisiau yn aml yn gwella'n gyflym, gall geiriau creulon achosi niwed seicolegol parhaol.
Ni ddylai plant mewn unrhyw amgylchiadau orfod dioddef niwed corfforol, na dioddef pobl yn galw enwau arnynt, yn lledaenu straeon amdanynt yn fwriadol, yn eu gwatwar oherwydd eu hil, yn aflonyddu'n rhywiol arnynt, yn anfon negeseuon testun annymunol neu'n gwrthod siarad â hwy.
Tactegau bwlio
Y newyddion drwg yw bod bwlio yn ei ffurfiau amrywiol yn dal i fod yn gyffredin yn ein hysgolion. Mae'r ystadegau yn rhoi darlun trist iawn, ac mae miloedd o blant yn dioddef bob blwyddyn.
Y newyddion da yw bod athrawon a'r Llywodraeth yn dod yn fwyfwy ymwybodol o faint y broblem. Mae'r gyfraith bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol weithredu strategaeth gwrth-fwlio ac mae llyfryn yr Adran Addysg a Sgiliau Don't Suffer in Silence 2000 yn llawn cyngor ymarferol i rieni.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad yw'ch plentyn chi y math o blentyn fyddai'n cael ei fwlio. Does yna ddim un math nodweddiadol o ddioddefwr ac yn anffodus, allwch chi ddim cymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn chi'n dweud wrthych os yw'n cael ei fwlio. Mae yr un mor debygol y bydd yn teimlo gormod o gywilydd, yn beio'i hun am ei sefyllfa, yn teimlo gormod o embaras neu'n poeni gormod i godi'r pwnc.
Beth yw'r arwyddion y dylai rhieni edrych amdanynt?
Os ydych yn darganfod bod eich plentyn yn cael ei fwlio, beth yw'r camau y dylech eu cymryd er mwyn datrys y broblem?
Faint o fwlio sy'n digwydd?
O'r miloedd o achosion o fwlio y rhoddwyd gwybod amdanynt i Bullying Online, roedd 49% ohonynt yn erbyn merched a 51% yn erbyn bechgyn. Roedd 40% yn ymwneud â thrais corfforol, a 59% yn ymwneud â chamdriniaeth seicolegol o ryw fath neu'i gilydd.
Mae bwlio'n effeithio ar iechyd ac addysg plant. Dengys yr ystadegau bod 3% o'r dioddefwyr yn gwrthod mynd i'r ysgol; bod 6% wedi eu tynnu o ysgol; bod 1% o'r rhieni'n gweld dim ateb i'r broblem ar wahân i symud o'r ardal.
Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn - mae cynifer ag un ar bymtheg o blant yn cael eu gyrru i ladd eu hunain bob blwyddyn yn y DU (os ydych am ddarllen mwy am hyn, ymdrinnir â'r pwnc yn sensitif gan Tim Field a Neil Mar yn Bullycide - Death at Playtime).
Pwy sy'n cael ei fwlio?
Bydd bwlis yn pigo ar unrhyw un sy'n wahanol i weddill y criw mewn unrhyw ffordd. Felly gallai fod yn rhywbeth mor syml â:
- bod â'r acen anghywir - yn rhy grand neu ddim yn ddigon crand
- dod o leiafrif ethnig
- gwneud yn dda yn academaidd neu dangyflawni'n amlwg
- edrych yn wahanol - er enghraifft, gwisgo'r esgidiau anghywir neu steil gwallt gwahanol
- nodwedd gorfforol amlwg - er enghraifft, rhywun sydd dros ei bwysau neu sydd â brychni haul
Roedd un o adroddiadau'r BBC yn sôn am ferch yng Ngogledd Cymru oedd yn cael ei bwlio oherwydd ei bod yn hoffi nofelau ffantasi!
Mae arbenigwyr weithiau'n siarad am 'ddioddefwyr pryfoclyd' - plant sy'n gorymateb mor ddramatig i helbulon dydd i ddydd y cae chwarae nes eu bod yn dod yn darged atyniadol i fwlis. Os ydych yn meddwl bod eich plentyn chi'n perthyn i'r categori hwn, efallai yr hoffech ei helpu i ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol. Ond ni waeth pa mor 'bryfoclyd' yw'r ymddygiad, ni ddylech chi na'r ysgol fyth anwybyddu unrhyw fath o fwlio.
Gwefan ddefnyddiol:
BBC Parents. Gwybodaeth a chyngor.
Arwyddion o fwlio
Gallai newidiadau yn ymddygiad eich plentyn gynnwys:
- salwch od sy'n digwydd yn aml a chynlluniau eraill i beidio â mynd i'r ysgol
- chwarae triwant
- newid y ffordd arferol o fynd i'r ysgol heb unrhyw reswm amlwg
- gwaith ysgol yn dirywio
- arian poced yn diflannu heb eglurhad yn cael ei ddefnyddio i dalu i'r rhai sy'n aflonyddu arno
- colli chwant am fwyd
- pryder, hunllefau a symptomau eraill iselder.
Beth ddylech chi ei wneud?
- Mae plentyn sydd wedi cael ei fwlio ac sydd wedi cadw'r peth yn gyfrinach yn teimlo ei fod wedi ei ynysu. Felly cyn gynted ag y bydd eich plentyn wedi dweud wrthych, y peth cyntaf y mae'n rhaid i chi ei wneud yw ei sicrhau na fydd ar ei ben ei hun o hyn ymlaen - byddwch chi a'r ysgol ar ei ochr ef.
- Efallai y byddai eich plentyn yn elwa o ddarllen am brofiad plant eraill o fwlio. Mae gwybodaeth i'w chael yn Bullies Out, Bullying Online ac Antibullying. Gallech hefyd ddarllen un o adroddiadau'r BBC lle mae disgyblion yn mynegi eu barn ynghylch y pwnc. Gall storïau a nofelau am gymeriadau sy'n cael eu bwlio fod o gymorth mawr i blentyn sy'n ymdrechu i ddod i delerau â'r trawma emosiynol y mae'n ei ddioddef. Mae Children's Books about Bullying, sydd wedi ei olygu gan Rosemary Stones, yn cynnig cyflwyniad rhagorol i'r llenyddiaeth sydd ar gael.
- Rhowch wybod i'r ysgol ar unwaith. Os ydych yn poeni y byddwch yn cael eich labelu fel 'rhiant ffyslyd', atgoffewch eich hun eich bod yn gweithredu er lles eich plentyn eich hun, a hefyd er lles pob plentyn arall a allai orfod dioddef yn yr un modd. Mae'n ofynnol i'r ysgol gael strategaethau er mwyn delio gyda bwlio. Gwnewch yn siwr eu bod yn cael eu gweithredu. Ond peidiwch â bod yn rhy siomedig os ydych yn darganfod nad yw'r bwlis yn cael eu cosbi. Mae llawer o ysgolion yn mabwysiadu agwedd 'dim bai': yn hytrach na chosbi bwlis am rywbeth y maent wedi ei wneud, mae athrawon yn ceisio eu helpu, drwy siarad gyda hwy, gyda'r bwriad o newid eu hymddygiad.
Gwefannau defnyddiol:
Advisory Centre for Education. Gwybodaeth am gyfrifoldebau'r ysgol tuag at y plentyn sy'n cael ei fwlio, beth i wneud cyn cysylltu â'r ysgol a sut i baratoi ar gyfer y cyfarfod.
BBC Schools. Cyngor a gwybodaeth pellach ynglyn â delio gyda bwlio.
Darllennwch am brofiad Tim o gael ei fwlio.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol