BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Disgyblaeth yn yr ysgol

1 Disgyblaeth yn yr ysgol
2 Bwlio
3 Triwantiaeth

4 Gwahardd disgyblion o ysgol
Gwahardd disgyblion o ysgol

Ni fydd ysgol yn gwahardd plentyn oni bai fod pob ymdrech arall wedi methu, neu os yw camymddygiad plentyn yn ddifrifol iawn.

Dim ond pennaeth all wahardd disgybl o ysgol (neu'r pennaeth dros dro neu'r dirprwy os nad yw'r pennaeth yno).

Gall gwaharddiad fod yn waharddiad cyfnod penodedig, am ychydig ddiwrnodau er enghraifft, neu gall fod yn waharddiad parhaol. Beth ddylech chi ei wneud ynghylch addysg eich plentyn os yw'n cael ei wahardd?

Gwaharddiad cyfnod penodedig

Yn ôl y gyfraith, gellir gwahardd disgybl am gyfnod penodedig fwy nag unwaith yn ystod blwyddyn benodol, ond ni ddylai cyfanswm y diwrnodau y gwaharddwyd y plentyn yn ystod y flwyddyn honno fod yn fwy na 45 diwrnod ysgol.

Cyn gynted ag y bo'r pennaeth wedi penderfynu gwahardd disgybl, rhaid iddo/iddi eich hysbysu chi, fel rhiant/rhieni'r plentyn, gan nodi pam bod y plentyn yn mynd i gael ei wahardd. Rhaid i'r pennaeth hefyd egluro wrthych bod gennych hawl i apelio drwy gysylltu â llywodraethwyr yr ysgol.

Os mai dim ond am bum niwrnod y mae'r gwaharddiad, nid oes rhaid cynnal cyfarfod ffurfiol o'r llywodraethwyr (neu bwyllgor llywodraethwyr). Ond os yw'r ysgol am i'r gwaharddiad fod am fwy na phum niwrnod, rhaid i'r ysgol alw cyfarfod llywodraethwyr cyn gynted ag y bo modd i'w drafod, a rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol. Gallwch apelio yn erbyn y gwaharddiad yn y cyfarfod hwn.

Os gelwir cyfarfod (neu bwyllgor) llywodraethwyr i drafod gwaharddiad cyfnod penodedig, bydd y pennaeth yn mynychu'r cyfarfod nid fel aelod o'r pwyllgor, ond yn hytrach fel tyst. Gall y llywodraethwyr ddewis caniatáu'r gwaharddiad, neu adael i'r disgybl fynd yn ôl i'r ysgol. Gallant hwy, neu'r pennaeth, hefyd ddewis caniatáu i ddisgybl sydd wedi ei wahardd fynychu ysgol er mwyn sefyll arholiad cyhoeddus.

Gwefannau defnyddiol:
Department for Education and Skills. Cyngor a gwybodaeth pellach.

Advisory Centre for Education. Cyngor ymarferol am beth i'w wneud os yw'ch plantyn yn cael ei wahardd.

Gwaharddiad parhaol

disgyblaethDyma'r hyn yr arferem ei alw'n ddiarddel - tynnu enw'r disgybl oddi ar lyfrau'r ysgol. Mae angen rhywbeth difrifol iawn cyn bydd ysgol yn cymryd y cam hwn ac ni fydd pennaeth yn rhoi gwaharddiad parhaol onid yw pob cam arall y mae wedi ei gymryd er mwyn lleihau ymddygiad drwg disgybl anodd iawn wedi methu.

Gallai camymddygiad difrifol iawn ar ran plentyn sydd wedi digwydd unwaith yn unig hefyd arwain at waharddiad parhaol.

Os bydd y pennaeth yn dewis cymryd y camau hyn yn erbyn eich plentyn, rhaid iddo/iddi eich hysbysu chi ar unwaith, gan nodi'r rhesymau dros y gwaharddiad, ynghyd â gwybodaeth am eich hawl i apelio i gorff llywodraethol yr ysgol.

Bydd llywodraethwyr yr ysgol (neu eu pwyllgor priodol) yn cyfarfod i drafod a ddylai'r gwaharddiad fynd rhagddo, gan wrando ar yr holl ffeithiau ynghylch ymddygiad y plentyn a'i effaith ar yr ysgol ac ar ddisgyblion eraill. Bydd y pennaeth yn mynd allan o'r cyfarfod hwnnw ar ôl rhoi tystiolaeth, ac ni fydd yn bresennol pan fydd y llywodraethwyr yn gwneud eu penderfyniad. Gallwch gyflwyno apêl yn erbyn y gwaharddiad i'r cyfarfod hwn.

Mae gan y llywodraethwyr hawl i ganiatáu i'r disgybl ddychwelyd i'r ysgol, neu i newid gwaharddiad parhaol yn waharddiad cyfnod penodedig.

Cyn gynted ag y bydd y llywodraethwyr wedi cytuno beth y maent am ei wneud, rhaid iddynt eich hysbysu chi yn ysgrifenedig (neu'r disgybl yn uniongyrchol os yw'r disgybl yn 18 oed), ynghyd â'r pennaeth a'r awdurdod addysg lleol.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y llywodraethwyr gallwch apelio unwaith eto, i banel apêl annibynnol ond rhaid i chi wneud hyn cyn pen 15 diwrnod fan bellaf ar ôl i chi dderbyn y llythyr yn dweud wrthych bod eich apêl i gyfarfod y llywodraethwyr wedi bod yn aflwyddiannus. Cyfrifoldeb yr awdurdod addysg lleol yw sefydlu'r panel apêl hwn, a bydd penderfyniad y panel yn derfynol oni bai eich bod yn gofyn am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys.

Gwefan ddefnyddiol:
Advisory Centre for Education. Cyngor ynglyn â beth i'w wneud os ydych yn anghytuno gyda'r gwaharddiad.

Addysg disgyblion gwaharddedig

Pan fo plentyn yn cael gwaharddiad cyfnod penodedig, rhaid i'r ysgol osod gwaith iddo ei wneud gartref.

Os bydd eich plentyn yn cael gwaharddiad parhaol, yr awdurdod addysg lleol sydd i benderfynu beth yw'r ffordd orau o addysgu'r disgybl. Gallai'r awdurdod drefnu ei fod yn cael lle mewn ysgol arall, neu mewn rhai achosion gallai ddewis cael lle i'r disgybl mewn uned atgyfeirio arbennig lle mae'r disgyblion yn cael eu haddysgu mewn grwpiau llai.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 4 o 4|1234Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy