Yr adroddiad ysgol hwnnw roedd pob un ohonom ni'n ei ofni. Roedd rhai ohonom yn casáu mynd â'r adroddiad gartref i'n rhieni! Ond mae'r adroddiad yn ffordd bwysig iawn o sicrhau eich bod yn gwybod sut mae'ch plentyn yn dod yn ei flaen yn yr ysgol.
Byddwch yn derbyn o leiaf un adroddiad ysgrifenedig am eich plentyn yn ystod pob blwyddyn ysgol. Dylai gynnwys gwybodaeth sylfaenol am gynnydd eich plentyn. Y pennaeth sydd i benderfynu a fydd yr adroddiad yn cynnwys mwy na'r wybodaeth sylfaenol hon. Y pennaeth hefyd sy'n penderfynu pa bryd i anfon yr adroddiadau (ond mae'n rhaid i rieni dderbyn y wybodaeth cyn diwedd tymor yr haf). Os yw'ch plentyn yn 18 oed neu drosodd bydd yr adroddiad yn cael ei anfon yn uniongyrchol ato ef/ati hi, ac nid atoch chi.
Beth ddylai adroddiad eich plentyn ei ddweud wrthych chi?
Yn gyfreithiol, rhaid i adroddiadau blynyddol disgyblion roi gwybodaeth sylfaenol i chi am gynnydd eich plentyn:
- cynnydd cyffredinol yn ystod y flwyddyn
- cynnydd ym mhynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n cael eu hastudio
- cynnydd ym mhob pwnc a gweithgaredd arall gan gynnwys addysg grefyddol
- cofnod presenoldeb.
Rhaid i'r adroddiad hefyd gynnwys trefniadau i chi drafod yr adroddiad gyda'r athrawon. Mae hwn yn gyfle na ddylid ei golli.
Beth sy'n digwydd ar ddiwedd pob Cyfnod Allweddol?
Mae angen i adroddiadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 gynnwys gwybodaeth ychwanegol am ganlyniadau'r profion cenedlaethol. Os yw'ch plentyn wedi gwneud y profion cenedlaethol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 neu 3 rhaid i'w adroddiad gynnwys:
- canlyniadau ei brofion
- crynodeb o'r canlyniadau ar gyfer yr holl blant sydd yn yr un grwp oedran yn yr ysgol, er mwyn i chi allu cymharu canlyniadau'ch plentyn gyda'r darlun cyffredinol
- crynodeb o ganlyniadau cenedlaethol y flwyddyn flaenorol er mwyn i chi allu eu cymharu.
Rwdl-mi-ri!
Mae athrawon hefyd yn gallu mynd dros ben llestri gyda jargon! Ond fe ddylent osgoi defnyddio jargon felly os oes unrhyw beth yn adroddiad eich plentyn nad ydych yn ei ddeall, gwnewch yn siwr eich bod yn holi'r athro/athrawes yn ystod y noson rieni. Fe welwch nad yw unrhyw dermau anghyfarwydd hanner mor gymhleth ag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf.