Mae'n werth i chi fynd i nosweithiau rhieni. Mae noson rieni yn gyfle da i gyfarfod yr athrawon er mwyn trafod cynnydd eich plentyn a chefnogi gwaith eich plentyn yn yr ysgol.
Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn trefnu amser penodol i chi weld pob athro/athrawes. Mae'r apwyntiadau hyn fel arfer yn para tua deng munud, felly mae'n syniad da paratoi rhestr o gwestiynau er mwyn gwneud y gorau o'r amser prin. Darllenwch adroddiad eich plentyn yn ofalus cyn mynd yno hefyd. Peidiwch â gwastraffu'r cyfle, ac fe welwch fod nosweithiau rhieni yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad.
Beth i'w ofyn
Mae nosweithiau rhieni yn gyfle i drafod gwaith ysgol eich plentyn, a hefyd i gael gwybod mwy am ei agwedd tuag at yr ysgol, ei allu i wneud ffrindiau a'i ymddygiad. Gallwch drafod gyda'r athrawon a oes modd i chi gynnig unrhyw gymorth ychwanegol er mwyn cefnogi'r addysg y mae'ch plentyn yn ei derbyn yn yr ysgol.
Does dim rheolau, wrth gwrs, ond gallech holi ynghylch:
- Cryfderau'ch plentyn
- beth mae'n ei gael yn anodd, a beth allwch chi ei wneud i helpu (o ran gwaith, neu sgiliau cymdeithasol)
- agwedd eich plentyn tuag at waith. A yw'n gweithio'n ddigon caled?
- pa ran y mae'ch plentyn yn ei chwarae mewn gweithgareddau dosbarth. A yw'n cymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth?
- sgiliau cymdeithasol eich plentyn
- ymddygiad eich plentyn
- pa gymorth allwch chi ei roi iddo/iddi gyda gwaith cartref neu waith cwrs.
Chwalu'r jargon
Os yw athrawon yn defnyddio jargon anghyfarwydd mewn adroddiadau ysgrifenedig neu lafar, peidiwch ag ofni gofyn iddynt egluro (pe baech chi'n llawfeddyg neu'n yrrwr wagen fforch godi, mae'n debyg na fyddent hwy'n deall eich geiriau jargon chi ychwaith).
Dangoswch eich gwerthfawrogiad. Os ydych yn meddwl bod athro/athrawes wedi gwneud gwaith da dywedwch hynny!
Ac os ydych yn teimlo braidd yn nerfus, peidiwch â phoeni, mae athrawon hefyd yn teimlo'n nerfus ynghylch nosweithiau rhieni!
Gwefan ddefnyddiol:
BBC Parents. Cyngor ynglyn â nosweithiau rhieni.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol