BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Adroddiadau

1 Adroddiadau
2 Nosweithiau rhieni
3 Cyflwyno cwyn

Cyflwyno cwyn

Mae llawer o bobl yn gyndyn o gwyno - yn enwedig os yw'n golygu siglo'r cwch yn ysgol eu plentyn, lle nad ydynt am gael eu gweld yn gwneud ffws neu gael eu labelu'n niwsans.

Ond mae ysgolion da am i ddisgyblion a'u rhieni deimlo'n hapus ynghylch amgylchedd yr ysgol, yr awyrgylch a'r berthynas - yn ogystal â'r addysg y mae'r disgyblion yn ei chael. Felly mae penaethiaid eisiau cael gwybod cyn gynted ag y bo modd os oes problemau neu faterion sy'n peri pryder i ddisgyblion a'u rhieni (ac mae gan y disgyblion eu hunain, yn ogystal â'u rhieni, hawl i gwyno). Yn aml iawn nid bod yn hollol negyddol yw diben cwyn, ond sicrhau canlyniad cadarnhaol i bob un sy'n gysylltiedig.

Am beth y mae pobl yn cwyno?

Unrhyw beth dan haul. Gallai fod yn fater cwricwlaidd, fel pynciau sy'n cael eu dysgu (neu ddim yn cael eu dysgu), dewis o bwnc neu gynnwys gwers neu werslyfrau a ddewiswyd. Gall addysg grefyddol a/neu gydaddoli, ac addysg ryw achosi cynnen. Gall gallu neu bersonoliaeth athro/athrawes, dulliau dysgu, gwaith cartref (gormod neu ddim digon), marcio gwaith disgybl neu safonau yn gyffredinol fod yn dargedau ar gyfer beirniadaeth. Gall gwisg ysgol, codi tâl am ymweliadau ysgol, bwlio, prinder adnoddau, sut mae plant ag anghenion arbennig yn cael eu trin, yn ogystal â chosbau a sancsiynau, i gyd arwain at gwynion ar ryw adeg neu'i gilydd.

Eich hawl i gwyno

Mae Adran 23 yn Neddf Diwygio Addysg 1988 wedi cynnwys mewn statud hawl rhieni i gwyno os ydynt yn anfodlon gyda'r ddarpariaeth gwricwlaidd neu addoliad crefyddol. Mae gan awdurdodau addysg lleol drefniadau ar gyfer rhoi sylw i'r cymal hwn. Mae'r Siarter Rhieni (1991) hefyd yn rhoi'r hawl i rieni gwyno os oes ganddynt gwyn.

Bydd gan gyrff llywodraethol ysgolion ddogfennau yn nodi sut i ddelio gyda chwynion am yr ysgol, a dylid rhoi gwybod am y rhain i'r rhieni. Bydd gan Awdurdodau Addysg Lleol hefyd drefn gwyno gymeradwyedig a fydd ar gael i rieni os gwneir cais amdani.

Gwneud cwyn

  • Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â'r ysgol a threfnu cyfarfod gyda'r pennaeth neu aelod priodol o'r staff. Mae modd datrys y rhan fwyaf o gwynion mewn ffordd gyfeillgar ac anffurfiol trwy drafod fel hyn.
  • Os nad oes modd datrys materion fel hyn, dylai'r pennaeth egluro wrthych beth yw'r ffordd orau o symud ymlaen i'r cam mwy ffurfiol, a dylai dogfennau yn amlinellu'r drefn fod ar gael fel canllaw i chi.
  • Y cam nesaf yw mynd â'ch cwyn at lywodraethwyr yr ysgol, lle bydd yn cael ei gwrando gan is-bwyllgor. Bydd y rhan fwyaf o'r cwynion mwy ffurfiol yn cael eu datrys ar y lefel hon.
  • Os na fydd eich cwyn yn cael ei datrys gan y llywodraethwyr, gallwch fynd â hi i'ch awdurdod addysg lleol (AALl). Ar y lefel hon, bydd swyddog ar gael i'ch helpu gyda materion yn ymwneud â threfn, ac unwaith eto bydd dogfennau ar gael. Wrth gwrs, os bydd eich cwyn yn erbyn yr AALl ei hun, ni fydd yn cael ei gwrando gan gorff llywodraethol ysgol.
  • Os bydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn methu â datrys cwyn gallai'r rhiant gyflwyno'r mater i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol (yng Nghymru). Ar ôl hynny, gallai cwyn sydd heb ei datrys fod yn fater i Lys Barn.

Ni ddylid oedi'n ddiangen cyn ystyried cwyn, ar unrhyw lefel. Dylid ystyried y mater yn llawn ac yn deg, a dylid eich hysbysu ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud.

Efallai mai'r cyngor gorau i riant (neu ddisgybl) yw cofio bod pawb eisiau canlyniad da, wedi ei sicrhau mewn ffordd gyfeillgar a boddhaol. Mae'n werth bod yn gwrtais ac yn rhesymol, a pheidio â chynhyrfu. Ysgrifennwch y dadleuon ar bapur cyn unrhyw drafodaeth neu wrandawiad, er mwyn eich helpu i roi trefn ar y 'dystiolaeth', neu dim ond er mwyn i chi allu mynegi'ch barn yn briodol.

Gwefan ddefnyddiol:
How to complain. Cyngor ymarferol ar sut i wneud cwyn.

Sut alla i ddangos fy ngwerthfawrogiad?

Yn ôl Horace Mann: "Mae athrawon yn dysgu oherwydd eu bod yn llawn gofal. Maent yn rhagori mewn addysgu pobl ifanc. Mae'n golygu oriau hir, dyfalbarhad, a gofal."

Mae athrawon fel pawb arall angen cael eu caru! Maent yn gweithio oriau maith yn yr ysgol ac adref, fel y gwyddom, ond ambell waith rydym yn cymryd eu gwaith caled yn ganiataol, oherwydd (yn ddigon naturiol ) mae rhieni'n canolbwyntio ar eu plant yn hytrach nag ar y bobl sy'n gofalu amdanynt yn yr ysgol.

Ond mae rhai ffyrdd y gallwch drafod gyda'ch plant sut i ddangos eich gwerthfawrogiad.

  • Enwebwch eich athro/athrawes ar gyfer gwobr. Sefydlwyd y Gwobrau Dysgu yn 1998 er mwyn gwobrwyo athrawon arbennig.
  • Mae plant yn aml yn rhoi anrhegion i'w hathrawon ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, i ddiolch iddynt am eu gwaith caled. Mae gan athrawon hawl i wrthod yn gwrtais baced o felysion neu botel o win a roddir yn rhodd iddynt ond ni wyddys am unrhyw achos lle mae hynny wedi digwydd.
  • Mae "Diolch yn fawr" mewn noson rieni, mewn llythyr neu gerdyn Nadolig yn cael ei werthfawrogi gymaint ag unrhyw beth arall.

Gwelwch y noson rieni o ochr arall y ddesg gyda phrofiad Mari Jewell.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 3 o 3|123Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy