Amcangyfrifir bod cynifer â 3,000 o blant yn osgoi mynd i'r ysgol bob diwrnod yng Nghymru. Beth pe baech chi'n darganfod bod eich plentyn chi yn un o'r rhain?
Mae darganfod bod eich plentyn wedi bod yn chwarae triwant yn deimlad annifyr bob amser. Ond cyn i chi ddechrau dweud y drefn, ceisiwch ddarganfod pam ei fod mor awyddus i beidio â mynd i'r ysgol.
Ydy'r plentyn:
- yn cael ei fwlio?
- yn teimlo bod un o'r athrawon yn pigo arno?
- yn cael y gwaith yn rhy anodd?
Efallai'n wir y dewch o hyd i broblem arall sydd yr un mor ddifrifol â'r triwantiaeth. Beth bynnag yw gwraidd y broblem, peidiwch byth â chaniatáu triwantiaeth. Bydd yn cael effaith andwyol wrth reswm ar waith ysgol, ac mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu y bydd chwarae triwant, a dyddiau hir dibwrpas i'w llenwi, yn aml yn troi'n fandaliaeth a throseddu.
Chwarae eich rhan
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion Cymru strategaethau rhagorol, ac arloesol weithiau, er mwyn delio gyda thriwantiaeth. Mae un ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru, er enghraifft, yn anfon neges testun at y rhiant pa bryd bynnag y mae disgybl yn absennol heb eglurhad. Ond ni fydd unrhyw system yn gwbl effeithiol onid yw'r rhieni'n chwarae eu rhan.
Felly byddwch yn drylwyr wrth ysgrifennu llythyrau absenoldeb, a pheidiwch â phetruso cyn cysylltu â'r ysgol os ydych yn amau bod eich plentyn yn colli gwersi. Gwnewch yn siwr bod y plentyn yn sylweddoli eich bod chi a'i athrawon yn cadw llygad ar ei bresenoldeb - yr unig adeg y mae plant yn chwarae triwant yw pan fônt yn meddwl na chânt eu dal.
Ac edrychwch ar y negeseuon rydych chi'n eu rhoi i'ch plant: mae Jane Davidson, Gweinidog Addysg Cymru, sydd wedi cyhoeddi y bydd yn mynd i'r afael â thriwantiaeth yng Nghymru, yn bryderus iawn ynghylch nifer y rhieni sy'n trefnu gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol.
Os hoffech gael mwy o gyngor, darllenwch ganllawiau'r Llywodraeth ar bresenoldeb.
Caniatáu triwantiaeth: ddim yn syniad da
Dangosodd arolwg a wnaethpwyd gan y Llywodraeth yn ddiweddar fod yn agos at 80% o'r rhai sy'n chwarae triwant yn peidio â mynd i'r ysgol gyda chaniatâd eu rhieni sydd, wrth gwrs, yn erbyn y gyfraith.
Mae'n peri cymaint o bryder nes bod y Llywodraeth yn ystyried cynlluniau i leihau neu hyd yn oed atal budd-dal plant rhag cael ei dalu i rieni plant sy'n chwarae triwant yn rheolaidd.
Yn ychwanegol at hyn, amcangyfrifir bod 20% o'r difrod troseddol, 40% o'r troseddau stryd, 25% o'r achosion o fwrgleriaeth, a thros 30% o'r achosion o ddwyn o geir yn cael eu gwneud gan bobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed yn ystod oriau ysgol. Ydych chi am i'ch plant chi fod yn rhan o hyn?
Y gyfraith
Mae'r Adran Addysg a Sgiliau yn dweud wrth rieni/gwarcheidwaid: "Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob plentyn sydd o oed ysgol gorfodol (rhwng 5 ac 16) gael addysg lawn-amser briodol. Rydych chi'n gyfrifol am wneud yn siwr bod hyn yn digwydd, naill ai drwy gofrestru'r plentyn mewn ysgol neu drwy wneud trefniadau eraill sy'n darparu addysg effeithiol.
"Os yw'ch plentyn wedi ei gofrestru fel disgybl mewn ysgol benodol rhaid i chi sicrhau ei fod yn ei mynychu'n rheolaidd. Gallai peidio â gwneud hynny olygu bod yr awdurdod addysg lleol perthnasol yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn, a allai olygu mynd â chi i'r llys i wynebu dirwy bosibl. Dim ond ysgolion all roi caniatâd i'ch plentyn fod yn absennol."
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol