 |  |   | Dewis ysgol |  |
 | Cyn dewis ysgol, mae'n syniad da i chi fynd i'w gweld. Bydd y pennaeth yn trefnu amser sy'n gyfleus i chi ac i'r athrawon er mwyn dangos y lle i chi.
Bydd gan ysgolion hefyd daflen, prosbectws, a gwefan yn aml sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Pethau i feddwl amdanynt: - lleoliad - Pa mor bell yw'r ysgol o'ch cartref, ac a oes cludiant ar gael. Cofiwch y gall pellter fod yn fater i'w ystyried os yw'ch plentyn yn debygol o fod yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol ar ôl ysgol.
- cyfeillgarwch - Gall symud i ysgol newydd fod yn brofiad ysgytiol, ac os nad yw'n debygol y bydd ffrind agos eich plentyn yn mynychu'r ysgol rydych chi'n ei ffafrio, dylech drafod hyn gyda'r plentyn. Os ydych yn dewis ysgol sy'n bellach i ffwrdd, efallai y bydd eich plentyn yn byw gryn bellter oddi wrth ffrindiau newydd, ac y bydd cymdeithasu'n anodd.
- brodyr a chwiorydd - Efallai ei bod yn bwysig i chi neu i'r plant bod y brodyr/chwiorydd i gyd yn mynychu'r un ysgol.
- croeso - A yw'r ysgol yn sefydliad hapus a chroesawus? Os ydyw, gall y berthynas rhwng y cartref a'r ysgol fod yn un gadarnhaol hefyd.
- amgylchedd adeiladol - Beth yw cyflwr adeiladau'r ysgol, a pha ymdrechion sy'n cael eu gwneud i wneud yr amgylchedd yn ddeniadol?
- enw da - Os oes gan ysgol enw da, beth yw'r dangosyddion gwrthrychol? Ni ddylech roi gormod o goel i straeon bod ysgol yn un dda neu'n un wael. Oes gan unrhyw ysgol dystiolaeth i brofi beth y mae'n wirioneddol dda am ei wneud?
- canlyniadau arholiadau allanol - Mae modd i chi gael gweld y rhain drwy wneud cais amdanynt. Maent yn ddefnyddiol ond nid dyma'r unig ddangosydd o bell ffordd.
- gweithgareddau allgyrsiol - Beth sy'n cael ei gynnig?
- arweinyddiaeth - Oes gan yr ysgol arweinyddiaeth gref?
- maint dosbarthiadau - Ydych chi'n meddwl y bydd eich plentyn yn cael y sylw y mae arno ef neu hi ei angen?
- dulliau dysgu a materion fel addysgu gallu cymysg, ffrydio neu fandio - efallai fod y rhain yn bwysig i chi ac i'ch plentyn.
- pynciau - Bydd pob ysgol yn darparu sylfaen gyffredin ym mhynciau allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol. Efallai yr hoffech wybod pa gyfuniadau o bynciau a allai fod ar gael ym Mlwyddyn 10.
- darpariaeth ôl-16 - Mae llawer o ysgolion, ond nid pob un, yn cynnig addysg ôl-16 sy'n arwain at arholiadau allanol amrywiol, gan gynnwys Safon A. A yw'ch plentyn chi'n debygol o fod am astudio yn y chweched dosbarth, ac a fyddai wahaniaeth ganddo/ganddi newid ysgol pe na bai ei (h)ysgol yn darparu'r addysg briodol? Gall eich AALl roi manylion i chi am ei ddarpariaeth ôl-16.
- Cymraeg - Mae'r defnydd a wneir o'r iaith Gymraeg yn amrywio o'r naill ysgol i'r llall. Holwch am fanylion.
- ethos disgyblu - Mae'r ffordd y mae plant yn cael eu trin yn hollbwysig. A yw'r ysgol yn fan gwaraidd lle mae disgyblaeth yn gadarn ond yn deg? Beth yw polisi'r ysgol ar ymddygiad a disgyblaeth, gan gynnwys cosbi a gosod sancsiynau?
- gofal bugeiliol - Dylai pob disgybl fod ag un neu fwy o athrawon penodol sy'n ei adnabod yn dda, sy'n gallu nodi cryfderau a gwendidau ac annog y person ifanc i wneud ei orau. Pa system sydd gan yr ysgol ar gyfer y gofal bugeiliol hwn?
- safonau a disgwyliadau - Sut mae'r ysgol yn darganfod talentau arbennig plentyn ac yn ei annog i anelu'n uchel a gwneud y gorau o'i gryfderau?
- nodau academaidd - Oes ar eich plentyn chi angen amgylchedd academaidd ymestynnol a chystadleuol ac os oes, a fydd yr ysgol hon yn ei ddarparu?
- fydd y plentyn yn hapus? Bydd plentyn sy'n hapus yn yr ysgol yn gyffredinol yn llawn brwdfrydedd. Efallai mai'r ystyriaeth hon yw'r un bwysicaf ohonynt i gyd!
Gwefannau defnyddiol
BBC Parents Cyngor ymarferol ynglyn â dechrau ysgol. Advisory Centre for Education Gwybodaeth a chyngor ynglyn â apelio am le i'ch plentyn mewn ysgol. Gwelwch hefyd brofiad Ceri Meazey o ddewis ysgol gynradd. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |  |
|   |
|  |  |
|