Efallai y bydd angen i blant 7-14 oed sy'n symud i 'gadarnleoedd' y Gymraeg yng Nghymru wella ychydig ar eu sgiliau Cymraeg er mwyn iddynt allu ymuno ag ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu canolfannau iaith ar gyfer hwyrddyfodiaid, lle bydd disgyblion yn derbyn eu haddysg am rai misoedd cyn iddynt fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'r addysgu'n seiliedig ar ddulliau trochi ieithyddol ac mae'r dosbarthiadau'n fach iawn.
Addysg gyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg
Darperir addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd cyn-ysgol yn bennaf gan Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM). Ers y 1970au, mae MYM wedi bod yn derbyn grant blynyddol sylweddol gan y llywodraeth, yn rhannol fel cydnabyddiaeth o'i waith arloesol ym maes dwyieithrwydd yn y blynyddoedd cynnar.
Nod Mudiad Ysgolion Meithrin yw hybu datblygiad corfforol, cymdeithasol, ieithyddol, diwylliannol, addysgol ac emosiynol plant dan 5 oed, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Drwy rwydwaith sy'n cynnwys bron i fil o gylchoedd, mae MYM yn darparu profiad ychwanegol o'r iaith Gymraeg i blant o gartrefi Cymraeg eu hiaith, a chyfle i blant o gartrefi Saesneg eu hiaith ddysgu Cymraeg.
Mae MYM yn cynnig:
- 578 o grwpiau chwarae cyn-ysgol neu 'gylchoedd meithrin'. Yn y rhannau hynny o Gymru lle mae cyfran uchel o'r plant sy'n mynychu'r cylch meithrin yn siarad Saesneg, mae'r athrawon yn defnyddio technegau trochi ieithyddol i gyflwyno'r Gymraeg i blant.
- 403 o gylchoedd Ti a Fi (grwpiau ar gyfer rhieni a phlant ifanc). Yn y cylchoedd hyn gall rhieni/gwarcheidwaid fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Cymraeg. Gall rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â'u plant.
Drwy Gymru gyfan, y ddarpariaeth ar gyfartaledd yw un cylch ar gyfer pob 256 o blant cyn-ysgol posibl, ac un cylch ar gyfer pob 50 o blant a allai fod yn siarad Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r safwe.
Deunydd Darllen:
Mae gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg dri llyfryn defnyddiol, sydd ar gael yn rhad ac am ddim:
- Magu Plant yn Ddwyieithog: Cyngor i Rieni
- Addysg Ddwyieithog i'ch Plentyn
- Datblygu Dwyieithrwydd mewn Plant
Ebost: ymholiadau@bwrdd-yr-iaith.org.uk
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Llyfrau i Rieni
Baker, C., (2000) A Parents' and Teachers' Guide to Bilingualism. Clevedon : Multilingual Matters.
Cunningham-Andersson, U. & Cunningham-Andersson, T, (1999) Growing Up in Two Languages. Llundain: Routledge.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol