Roedd yr ysgolion cyntaf i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn darparu ar gyfer plant mewn ardaloedd lle'r oedd y Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt. Sefydlwyd ysgol gynradd Gymraeg breifat yn Aberystwyth yn 1939, ond yn Llanelli, yn 1947, yr agorwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf i gael ei hariannu ag arian cyhoeddus. Yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf oedd Ysgol Glan Clwyd yng Ngogledd Cymru, a agorwyd yn 1956, yn y Rhyl i ddechrau, ac yna yn Llanelwy.
Fodd bynnag, erbyn y 1960au, roedd mwy a mwy o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi lle na siaredid Cymraeg - roedd pobl yn anfon eu plant yno gan eu bod yn meddwl bod yr ysgolion hyn yn cael canlyniadau gwell mewn arholiadau.
Yn 1988, rhoddodd y Ddeddf Diwygio Addysg statws pwnc craidd Y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru i'r Gymraeg mewn ysgolion lle siaredid Cymraeg yn bennaf ac ysgolion dwyieithog, a statws pwnc sylfaen yng ngweddill ysgolion Cymru.
Sut mae pethau'n cael eu dysgu?
Mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn dysgu'r rhan helaethaf o'r pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg (h.y. cyflwynir y gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg), neu yn ddwyieithog, gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg.
Darperir cefnogaeth i ddysgu'r iaith Gymraeg gan dîm cenedlaethol o athrawon teithiol a elwir yn Athrawon Bro. Maent yn teithio o'r naill ysgol i'r llall er mwyn cynnig cefnogaeth i athrawon a disgyblion sy'n dysgu Cymraeg, ac sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mathemateg a gwyddoniaeth
Mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dysgu mathemateg a gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae rhai yn cynnig Mathemateg a Gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Saesneg. Mae dadl ynghylch y polisi hwn.
Mae cefnogwyr cwricwlwm a gyflwynir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg yn honni eu bod yn cael gwell llwyddiant mewn arholiadau. Mae rhai athrawon yn teimlo bod defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn gweithio'n dda. Mae eraill yn dadlau y dylai gwyddoniaeth yn fwyaf arbennig gael ei dysgu yn yr iaith y gwneir y rhan fwyaf o'r ymholiadau gwyddonol rhyngwladol, sef Saesneg.
Saesneg
Fel arfer, cyflwynir Saesneg i blant o gartrefi Cymraeg eu hiaith, mewn ysgolion lle siaredir Cymraeg, pan fo'r plant yn saith oed. Mae disgyblion, ar y cyfan, yn dod i ddarllen, ysgrifennu a defnyddio'r iaith yn fuan iawn, a hynny gystal â phlant o gartrefi Saesneg eu hiaith.
Erbyn y bydd eich plant yn ddeg neu'n un ar ddeg oed, dylech ganfod fod gallu'ch plant dwyieithog mewn Saesneg yn ddigon tebyg i allu plant nad ydynt yn siarad Cymraeg (h.y. plant 'uniaith').
Yn anaml iawn y mae plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn mynd ar ei hôl hi â'u cymhwysedd mewn Saesneg. Mae Saesneg mor amlwg yn y cyfryngau torfol, ar y strydoedd ac yn y siopau, fel bod plant yn tueddu i ddod yn rhugl yn y ddwy iaith - ac yn cael y fantais o gael dwy iaith a dau ddiwylliant.