Mae dwyieithrwydd mewn Cymraeg a Saesneg yn bwysig i blant yng Nghymru: bydd yn effeithio ar weddill eu bywydau, ac ar fywydau eu rhieni. Gall bod yn ddwyieithog, yn amlieithog neu'n unieithog, effeithio ar hunaniaeth plentyn, rhwydweithiau ffrindiau a chydnabod, addysg, cyflogaeth, priodas, ardal y dewisir byw ynddi, teithio ac agweddau.
Y manteision
Gall dwyieithrwydd gynyddu cyfleoedd a dewisiadau. Am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif, roedd dwyieithrwydd yn cael ei ystyried fel rhyw fath o anfantais: o ran meddylfryd a ffurfio cymeriad, ac yn fwy na dim o ran datblygiad addysgol. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y brif farn ryngwladol yw bod gan ddwyieithrwydd fanteision pendant i bob plentyn. Dwy iaith: dwywaith y dewis.
Mae llawer o fanteision - dyma rai o'r manteision a nodwyd mewn ymchwil ryngwladol o'r 1960au hyd heddiw.
Cyfathrebu gyda'r teulu a'r gymuned gyfan
Mae bod yn ddwyieithog yn creu pont rhwng cenedlaethau - er enghraifft, lle mae'r taid a'r nain yn siarad Cymraeg, a'u hwyrion a'u hwyresau'n cael eu magu i siarad Saesneg yn bennaf. Mae gallu cyfathrebu rhwng cenedlaethau'n helpu i greu ymdeimlad o berthyn i'r teulu estynedig.
Mae gallu siarad Cymraeg yn caniatáu i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg chwarae rhan lawn ym mywyd y gymuned yn yr ardaloedd hynny o Gymru lle gwneir defnydd helaeth o'r Gymraeg.
Lle bo'r ddau riant yn siarad mamiaith wahanol, gall plentyn sy'n ddwyieithog gyfathrebu'n rhwydd gyda'r ddau, gan ddatblygu perthynas agos gyda'r ddau riant. Yr un pryd, mae'r ddau riant yn trosglwyddo rhan o'u gorffennol a'u hetifeddiaeth i'r plentyn.
Cyfle i fod yn rhan o ddau ddiwylliant
Un o fanteision bod yn ddwyieithog yw'r cyfle i fod yn rhan o ddau ddiwylliant - dau fyd gwahanol o brofiadau. Gydag iaith daw idiomau a dywediadau, straeon gwerin a hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth a cherddoriaeth, draddodiadol a chyfoes.
Mae darllen ac ysgrifennu mewn dwy iaith yn golygu bod person dwyieithog yn gallu mwynhau llenyddiaeth yn y ddwy iaith wreiddiol. Gall hyn greu gwell dealltwriaeth o wahanol draddodiadau a ffyrdd o feddwl ac ymddwyn. Mae'r pleser o ddarllen nofelau, barddoniaeth a chylchgronau, a'r mwynhad o ysgrifennu at ffrindiau a theulu i gyd ddwywaith gymaint yn achos pobl ddwyieithog.
Sicrwydd hunaniaeth
Yr iaith Gymraeg yw un o'r ychydig bethau sy'n gwneud Cymru'n wahanol i weddill y DU, a gall fod yn ddolen gyswllt gref rhwng Cymry ym mhob man. Gall pawb yng Nghymru, a phawb sy'n dod o Gymru, fod yn falch o'r iaith, hyd yn oed os nad ydynt yn ei siarad. Mae'n perthyn i bob un ohonom.
Derbyn ieithoedd a diwylliannau eraill
Gan fod dwy iaith yn rhoi profiad diwylliannol ehangach i bobl, yn aml iawn maent yn fwy parod i dderbyn gwahaniaethau mewn diwylliannau, credoau ac arferion y tu hwnt i'w profiad hwy eu hunain.
Manteision i'r ymennydd
Dangosodd gwaith ymchwil fod cael dwy iaith dda yn gallu bod o fantais i bobl o ran y ffordd y maent yn meddwl:
- Meddwl yn greadigol: mae gan blant dwyieithog ddau air, os nad mwy, am bob gwrthrych a syniad, a rhoddir gwahanol ystyron i eiriau weithiau gan y ddwy iaith. Golyga hyn y gall person dwyieithog ddod i feddwl yn fwy hyblyg, nid am eiriau yn unig, ond am bopeth.
- Sensitifrwydd: mae'n rhaid i bobl ddwyieithog wybod pa iaith i siarad gyda phwy, a phryd. O ganlyniad, maent yn ymddangos fel pe baent yn fwy sensitif i anghenion gwrandawyr na phobl unieithog.
- Cyniferydd Deallusrwydd: dengys ymchwil o bob cwr o'r byd bod pobl ddwyieithog yn tueddu i wneud yn well mewn profion CD na phobl unieithog o'r un dosbarth cymdeithasol-economaidd.
- Darllen: mae pobl ddwyieithog yn rhoi mwy o bwyslais ar ystyr geiriau yn hytrach na'u sŵn. Dangosodd ymchwilwyr o Ganada fod hyn yn hwb iddynt pan fyddant yn dysgu darllen.
Manteision addysgol
Mae plant sydd â dwy iaith yn tueddu i wneud yn well yn y cwricwlwm ac mae eu perfformiad ychydig yn well mewn profion ac arholiadau - mae hyn i'w weld mewn ymchwil i systemau addysg ddwyieithog mewn gwledydd cyn belled oddi wrth ei gilydd â Chanada, Unol Daleithiau America, Gwlad y Basg, Catalonia a Chymru. Mae dadansoddi canlyniadau arholiadau Cymru yn dangos i ni bod perfformiad plant sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gyson uwch na pherfformiad eu cymheiriaid cyfrwng Saesneg.
Trydedd iaith yn haws
Ceir tystiolaeth gynyddol bod pobl ddwyieithog yn tueddu i'w chael yn haws i ddysgu trydedd iaith. Er enghraifft, mae plant o wledydd fel yr Iseldiroedd, Denmarc a'r Ffindir yn aml yn siarad tair neu bedair iaith yn rhwydd.
Manteision o safbwynt cyflogaeth
Mae manteision economaidd cynyddol i fod yn ddwyieithog yng Nghymru. Bydd gan berson sydd â dwy iaith ddewis ehangach o swyddi, wrth i'r galw am bobl sy'n siarad Cymraeg gynyddu yn y sector adwerthu, twristiaeth, cludiant, cysylltiadau cyhoeddus, bancio a chyfrifyddiaeth, gweinyddiaeth, cyfieithu, gwaith ysgrifenyddol, marchnata a gwerthu, y gyfraith a dysgu. Nid yw bod yn ddwyieithog yn gwarantu gwaith, ond mae'n rhoi sgil ychwanegol werthfawr i bobl!
Mwy o hunan-barch
Mae gallu symud yn naturiol o un iaith i'r llall yn gwneud i blentyn deimlo'n fodlon gydag ef ei hun a'r hyn y gall ei wneud. Gall teimlo ei fod yn gallu defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg roi hwb sylweddol i hunan-barch plentyn.
Yr anfanteision
Cynyddu gwendidau
Pan fo dwy iaith plentyn yn wael, a'r plentyn yn methu â dygymod ag unrhyw ran o gwricwlwm yr ysgol, gall dwyieithrwydd fod ar fai. Bryd hynny hyd yn oed, ni ddylid gweld 'bai' ar y plentyn dwyieithog, oherwydd yn aml iawn amgylchiadau cymdeithasol sy'n achosi bod ieithoedd heb ddatblygu'n ddigonol mewn plentyn. Gall problemau godi hefyd mewn rhannau eraill o'r cwricwlwm pan ddisgwylir i blant hŷn astudio pynciau eraill mewn iaith nad ydynt yn ddigon hyddysg ynddi, neu mewn iaith nad yw eu gallu ynddi yn gydnaws â'r hyn a ddisgwylir yng ngweithgareddau'r cwricwlwm.
Mwy o waith i'r rhieni
Gall magu plentyn dwyieithog fod yn fwy o waith i rieni. Bydd angen i chi gynllunio datblygiad dwyieithog plentyn yn ofalus ac yn greadigol. yn enwedig os mai un iaith rydych chi eich hun yn ei siarad fel bod modd i'r ddwy iaith ffynnu.
Hunaniaeth ddiwylliannol
Weithiau, gall plant deimlo'n ansicr pwy ydynt: os ydynt yn siarad Cymraeg a Saesneg, a ydynt yn Gymry, yn Saeson, yn Brydeinwyr, yn Ewropeaid, yn Eingl-Gymreig? Mae llawer o rieni yn credu nad yw hyn yn broblem - efallai eu bod yn siarad dwy iaith, ond maent yn cael eu cysylltu heb unrhyw amheuaeth ag un grwp ethnig neu ddiwylliannol. Mae rhai pobl ddwyieithog sy'n teimlo eu bod yn Brydeinwyr ac yn Gymry, ac yn gweld dim byd o'i le ar fod yn 'gymysg-ddiwylliannol'! Bydd eraill yn teimlo'n anghyfforddus wrth symud o un hunaniaeth i'r llall.