Fydd dysgu mewn dwy iaith yn arafu'ch plentyn? Beth os nad yw'ch plentyn yn gwneud yn dda yn yr ysgol, neu os oes ganddo anawsterau dysgu? Weithiau mae rhieni plant dwyieithog yn tueddu i edrych ar ddwyieithrwydd fel rheswm posib dros ddiffyg llwyddiant eu plentyn yn yr ysgol, pa un a oes gan y plentyn broblemau ieithyddol, addysgol, cymlliadol neu gymdeithasol.
Yn aml iawn mae pobl yn ceisio dweud bod dwyieithrwydd yn achosi dryswch deallusol - yn lleihau gallu plentyn i ddeall pethau a datblygu. Weithiau mae pobl yn gweld yr ymennydd dwyieithog fel dwy injan yn gweithio ar hanner y pwer! Ond nid yw hyn yn wir. Lle bo dwy iaith wedi eu datblygu'n dda, mae dwyieithrwydd yn fwy tebygol o arwain at fanteision deallusol yn hytrach nag anfanteision.
Felly peidiwch â rhuthro i roi'r bai ar ddwyieithrwydd. Yn aml iawn nid dwyieithrwydd yw achos y broblem o gwbl. Byddai'n werth i chi edrych yn gyntaf ar achosion posibl eraill: safon yr addysgu, amgylchedd yr ysgol, cymhelliant neu bersonoliaeth y plentyn neu achosion yn y cartref. Yn rhy aml o'r hanner, bydd dwyieithrwydd yn cael bai ar gam am ba bynnag broblem sy'n codi.
Plant sy'n siarad Saesneg
Pan fo plant Saesneg eu hiaith yn cael eu haddysgu yn Gymraeg, mae'r dystiolaeth yn tueddu i awgrymu nad yw eu cyrhaeddiad yn dioddef yn yr ysgol: ond i'r gwrthwyneb. Nid yw eu Saesneg dan fygythiad, na'u hunan-barch, eu statws na'u gallu academaidd. Mewn amgylchedd dwyieithog cadarnhaol, mae plant Saesneg eu hiaith yn elwa o addysg ddwyieithog heb effeithiau negyddol ar eu cyrhaeddiad. Mae'n bosib y bydd oedi dros dro pan fo'r plentyn yn dysgu ail iaith - awgryma ymchwil o Ganada mai dros dro yn unig y bydd unrhyw oedi o'r fath rhwng oddeutu chwech a deng mlwydd oed.
Mae'n bwysig, fodd bynnag, fod rhieni ac ysgolion yn sicrhau bod datblygiad ieithyddol plentyn yn ddigon da i'w alluogi i ddygymod â lefel ddeallusol gymhlethach yn y cwricwlwm pan fydd yn mynd i'r ysgol uwchradd. Yn ystod blynyddoedd cynnar addysg gynradd, nid yw cymhlethdod ieithyddol yr ystafell ddosbarth yn galw am lawer iawn o sgiliau iaith gan y plentyn. Wrth i blentyn fynd yn ei flaen drwy'r ysgol, mae llai o bwyslais ar weithredoedd ac arddangosfeydd lle mae pethau i'w gweld yn digwydd a llai o iaith corff. Mae mwy a mwy o'r dysgu'n digwydd drwy eiriau a syniadau haniaethol.
O ganlyniad, rhaid i iaith y plentyn dwyieithog fod ar yr un lefel â chymhlethdod y cwricwlwm yn y dosbarth. Mae hyn naill ai'n golygu sicrhau bod iaith y plentyn wedi datblygu'n ddigon da iddo allu dygymod â phynciau yn y cwricwlwm, neu mae angen i'r athro/athrawes addasu i lefel ieithyddol y plentyn, gan annog datblygiad iaith, a sicrhau yr un pryd na chyflwynir addysg gwricwlaidd rhy gymhleth a rhy haniaethol yn rhy gynnar.
Plant Cymraeg eu hiaith
Weithiau, os yw plentyn Cymraeg ei iaith yn tangyflawni, bydd rhai pobl yn ceisio dweud mai'r rheswm am hynny yw'r ffaith nad yw'n cael digon o Saesneg. Dywedir nad yw sgiliau Saesneg myfyrwyr wedi datblygu digon iddynt allu dygymod â'r cwricwlwm. Unwaith eto, mae hyn fel arfer yn anghywir. Pan ddysgir y cwricwlwm i blentyn Cymraeg yn ei iaith gyntaf yn bennaf, awgryma tystiolaeth bod llwyddiant i'w gael ac mae'r llwyddiant hwn yn cynnwys dod yn rhugl mewn Saesneg. Byddai ei droi at y Saesneg yn fuan yn gwneud mwy o ddrwg nag o les, ac yn ei orfodi i ddefnyddio sgiliau ieithyddol eraill yn lle'r rhai sydd ganddo'n barod heb fod angen.
Rheswm arall a roddir dros dangyflawniad plant dwyieithog yw diffyg cyfatebiaeth rhwng y cartref a'r ysgol nid yn unig o safbwynt iaith ond hefyd o safbwynt diwylliant, gwerthoedd a chredoau. Yn y gorffennol, disgwylid i deuluoedd Cymraeg addasu i'r system, a magu eu plant yn Saesneg. Y farn gyffredinol heddiw yw y dylai system yr ysgol, lle bo'n ymarferol, fod yn ddigon hyblyg i gynnwys iaith a diwylliant y cartref. Drwy addysg ddwyieithog, drwy gynnwys rhieni yn y gwaith o redeg yr ysgol, drwy wneud rhieni'n bartneriaid ac yn gyfranogwyr yn addysg eu plentyn, gall y 'diffyg cyfatebiaeth' honedig ddod yn undod. Ni ddylai ysgol greu'r ymdeimlad bod plentyn yn cael ei gymhathu'n ddiwylliannol ar gyfer byd Saesneg ei iaith.
Addysg bellach ac addysg alwedigaethol
Ar hyn o bryd, prin iawn yw'r ddarpariaeth ar gyfer addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg ac nid yw'n cwrdd â'r galw, ac eithrio yn ardaloedd Cymraeg y gogledd-orllewin. Ond mae'r pwyslais newydd ar ddwyieithrwydd mewn gweithleoedd yn cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr o werth addysg ddwyieithog, a thrwy hynny'n cynyddu'r galw a'r cyflenwad. Mae cyrsiau galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg yn dod ar gael yn raddol mewn ymateb i'r galw o du'r myfyrwyr a'r cyflogwyr.
Plant ag anghenion arbennig
Os canfyddir bod gan blentyn broblem emosiynol neu ieithyddol ddifrifol, mae symud o ddwy iaith i un weithiau'n cael ei weld fel ffordd o helpu i wella datblygiad y plentyn drwy leihau ei 'faich' dysgu - hyd yn oed pan fo rhieni a gweithwyr proffesiynol yn derbyn nad dwyieithrwydd yw achos problem y plentyn.
Yn ymarferol, fodd bynnag, gall hyn olygu bod y cyd-destun (dwyieithrwydd) yn cael ei newid, ond heb roi sylw mewn gwirionedd i wraidd y broblem, sydd efallai yn dal heb ei darganfod. Er enghraifft, os yw plentyn yn strancio mewn tymer ddrwg, yn ymddangos yn araf yn siarad heb achos amlwg, neu'n ymddangos heb lawer o hunan-barch, nid yw gollwng un iaith yn debygol o gael unrhyw effaith.
I'r gwrthwyneb, gallai'r newid sydyn yn ei fywyd teuluol mewn gwirionedd wneud y broblem yn waeth: os yw'r iaith y mae pobl wedi ei defnyddio i ofalu amdano, i'w garu ac i chwarae gydag ef yn newid yn sydyn, gall wneud iddo deimlo bod y cariad a'r gofal hwnnw wedi newid. Gall newid dros nos arwain at ganlyniadau poenus wrth i iaith gyfarwydd y teulu ddiflannu, a gall y plentyn deimlo'n ansicr iawn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw'n briodol symud o ddwy iaith i un. Fodd bynnag, mae pob plentyn a phob teulu'n wahanol, ac nid oes unrhyw reolau pendant. Mewn rhai achosion, efallai y byddai'n ddoeth canolbwyntio ar ddatblygu'r iaith gryfaf. Mae atal dweud yn un enghraifft lle gallai gollwng iaith wannach dros dro ambell waith helpu i symud y plentyn drwy gyfnod byr o anhawster deallusol.
Os penderfynir bod angen symud dros dro i un iaith, pa un ddylech chi ei defnyddio? Weithiau, bydd rhieni, athrawon a gweinyddwyr ym maes addysg am roi pwyslais ar Saesneg gan eu bod yn meddwl ei bod yn bwysicach. Ond mae'n llawer pwysicach bod iaith angori'r plentyn yn cael ei chadw: os mai Cymraeg yw ei famiaith, cadwch at y Gymraeg. Hyd yn oed os yw'r plentyn yn araf i ddatblygu yn ei iaith gyntaf, cadwch ati.
Nid symud dros dro i un iaith fydd yr unig ateb - mae angen darganfod gwraidd y broblem, ac mae'n debyg y gelwir am becyn o gamau gwahanol, gan weithio gyda therapyddion lleferydd, neu seicolegwyr clinigol neu addysgol. Gwnewch yn siwr fod ganddynt brofiad o weithio gyda phlant dwyieithog.
Os yw'r oedi ieithyddol yn diflannu, yna bydd modd ailgyflwyno'r ail iaith, yn enwedig os gellir ei chysylltu â phrofiadau cadarnhaol, yn hytrach na ffynhonnell aflonyddiad. Cadwch lygad rhag ofn i'r plentyn ddechrau cysylltu iaith â phryder, cymhlethdodau neu anhapusrwydd.
Am wybodaeth ynghylch addysg anghenion arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg, gweler yr adroddiad yn dwyn y teitl Cydnabod Angen - Arolwg o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru (2002). Ar gael ar wefan Bwrdd yr Iaith.