Cynhyrchu trydanDiagramau Sankey

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Diagramau Sankey

Mae diagramau Sankey yn crynhoi’r holl drosglwyddiadau egni sy’n digwydd mewn proses. Rydyn ni’n lluniadu diagramau Sankey wrth raddfa – y mwyaf trwchus yw’r llinell neu’r saeth, y mwyaf o egni sy’n gysylltiedig â hi. Efallai y bydd gofyn i ti luniadu diagram Sankey wrth raddfa mewn arholiad.

Mae’r diagram Sankey hwn ar gyfer lamp drydan yn dangos bod y rhan fwyaf o’r egni trydanol yn cael ei drosglwyddo fel gwres yn hytrach na golau.

Diagram Sankey ar gyfer lamp ffilament. Mae wedi’i labelu ag Egni trydanol 100 Joule, Egni golau 10 Joule ac Egni gwres 90 Joule.
Figure caption,
Diagram Sankey ar gyfer lamp ffilament

Mae egni yn gallu cael ei drosglwyddo yn ddefnyddiol, ei storio neu ei . Does dim modd creu neu ddinistrio egni. Yr enw am hyn yw cadwraeth egni.

Yn y diagram Sankey uchod, mae 100 J o egni trydanol yn cael ei gyflenwi i’r lamp. Mae 10 J o hyn yn cael ei drosglwyddo i’r amgylchoedd fel egni golau. Mae’r gweddill, 90 J (100 J – 10 J) yn cael ei drosglwyddo i’r amgylchoedd fel egni gwres.

Y trosglwyddiad defnyddiol yw’r trosglwyddiad egni i egni golau. Mae’r gweddill yn cael ei ‘wastraffu’. Mae’n cael ei drosglwyddo i’r amgylchoedd yn y pen draw, gan eu cynhesu. Yn y diwedd, mae’r egni sydd wedi ei wastraffu yn gwasgaru cymaint nes ei bod yn anodd iawn gwneud unrhyw beth defnyddiol gydag e.

Mae lampau arbed egni modern ac LEDau (deuodau allyrru golau) yn gweithio mewn ffordd wahanol. Maen nhw’n trosglwyddo cyfran fwy o egni trydanol fel egni golau.

Dyma’r diagram Sankey ar gyfer lamp arbed egni cyffredin.

Diagram Sankey ar gyfer lamp arbed egni nodweddiadol. Mae wedi’i labelu ag Egni trydanol 100 Joule, Egni golau 75 Joule ac Egni gwres 25 Joule.

Yn y diagram, fe alli di weld bod llawer llai o egni trydanol yn cael ei drosglwyddo, neu ei ‘wastraffu’ fel egni gwres o’r lamp sy’n arbed egni. Mae’n fwy effeithlon na’r lamp ffilament.

Effeithlonrwydd

Cyfrifo effeithlonrwydd

Mae’n bosibl cyfrifo effeithlonrwydd dyfais fel lamp, fel hyn.

\(\text{\% effeithlonrwydd}=\frac{\text{egni [neu bŵer] sydd wedi’ i drosglwyddo’n llwyddiannus}}{\text{cyfanswm yr egni [neu bŵer] sydd wedi’ i gyflenwi}}\times{\text{100}}\)

Effeithlonrwydd y lamp ffilament

\(\text{\% effeithlonrwydd}=\frac{\text{10}}{\text{100}}\times{\text{100}}={\text{10\%}}\)

Mae hyn yn golygu bod deg y cant o’r egni trydanol sy’n cael ei gyflenwi yn cael ei drosglwyddo fel egni golau (mae 90 y cant yn cael ei drosglwyddo fel egni gwres).

Effeithlonrwydd y lamp arbed egni

\(\text{\% effeithlonrwydd}=\frac{\text{75}}{\text{100}}\times{\text{100}}={\text{75\%}}\)

Mae hyn yn golygu bod 75 y cant o’r egni trydanol sy’n cael ei gyflenwi yn cael ei drosglwyddo fel egni golau (mae 25 y cant yn cael ei drosglwyddo fel egni gwres).