Cynhyrchu trydanEgni dŵr

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Egni dŵr

Yn debyg i’r gwynt, mae’n bosibl defnyddio dŵr i yrru tyrbinau yn uniongyrchol. Mae sawl ffordd bosibl o ddefnyddio dŵr, gan gynnwys tonnau, y llanw a dŵr sy’n disgyn mewn cynlluniau pŵer trydan dŵr.

Tonnau

Mae’r dŵr yn y môr yn codi a disgyn oherwydd y tonnau ar ei arwyneb. Mae peiriannau tonnau yn defnyddio’r egni cinetig yn y symudiad hwn i yrru generaduron trydan. Mae symudiad dŵr môr i mewn ac allan o geudod ar y lan yn cywasgu aer sydd wedi’i ddal, gan yrru tyrbin.

Y llanw

Mae symiau enfawr o ddŵr yn symud i mewn ac allan o aberoedd bob dydd oherwydd y llanw. Mae’n bosib codi arglawdd llanw ar draws aber i ddefnyddio’r egni cinetig yn y dŵr sy’n symud. Mae generaduron trydan yn yr arglawdd, sy’n cael eu gyrru gan y dŵr wrth iddo ruthro drwy’r tiwbiau yn yr arglawdd.

Pŵer trydan dŵr

Fel yr arglawdd llanw, mae’r orsaf drydan dŵr yn defnyddio’r mewn dŵr symudol. Ond mae’r dŵr yn dod o’r tu ôl i argae sydd wedi cael ei godi ar draws dyffryn afon. Mae’r dŵr sy’n uchel i fyny y tu ôl i’r argae yn cynnwys . Mae hwn yn cael ei drosglwyddo’n egni cinetig wrth i’r dŵr ruthro i lawr pibellau o fewn yr argae. Mae’r dŵr symudol yn gyrru generaduron trydan, y gellir eu hadeiladu yn yr argae.

Manteision egni dŵr

  • Mae pŵer dŵr yn ei wahanol ffurfiau yn adnodd egni adnewyddadwy a does dim unrhyw gostau tanwydd.
  • Does dim carbon deuocsid na nwyon sy’n cyfrannu at law asid yn cael eu cynhyrchu.
  • Mae arglawdd llanw a gorsafoedd trydan dŵr yn ddibynadwy iawn ac mae’n hawdd eu cychwyn nhw.

Anfanteision egni dŵr

  • Mae wedi bod yn anodd creu peiriannau tonnau digon mawr i gynhyrchu llawer iawn o drydan.
  • Mae argloddiau llanw yn dinistrio cynefin y rhywogaethau sy’n byw yn y foryd, gan gynnwys adar hirgoes.
  • Mae argaeau trydan dŵr yn boddi tir amaethyddol ac yn gorfodi pobl i adael eu cartrefi.
  • Mae’r llystyfiant sy’n pydru o dan y dŵr yn rhyddhau methan, sy’n .