Tanwyddau ffosil
Mae tanwyddau ffosil yn cynnwys glo, olew a nwy naturiol. Fe gawson nhw eu ffurfio o weddillion organebBod byw yw organeb - planhigyn, anifail, ffwng neu bacteriwm. byw miliynau o flynyddoedd yn ôl ac maen nhw’n rhyddhau egni gwres wrth gael eu llosgi. Maen nhw’n anadnewyddadwy. Mae egni cemegolMath o egni sy’n cael ei storio. Mae’n cael ei gymryd i mewn pan mae bondiau cemegol yn torri, ac yn cael ei roi allan pan mae bondiau cemegol yn cael eu ffurfio. yn cael ei storio ynddyn nhw.
Mae tua thri chwarter y trydan sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU yn dod o orsafoedd pŵer sy’n defnyddio tanwyddau ffosil. Mae’r diagram hwn yn dangos trosglwyddiad egni ar gyfer cynhyrchu trydan o danwydd ffosil. Yn yr achos hwn, glo.
Manteision defnyddio tanwyddau ffosil
- Ar hyn o bryd, mae tanwyddau ffosil yn gymharol rad ac mae’n hawdd dod o hyd iddyn nhw. Mae’n bosibl na fydd hyn yn parhau am byth gan fod tanwydd ffosil yn adnodd y mae pen draw iddo.
- Mae llawer o’n hisadeiledd wedi ei gynllunio i ddefnyddio tanwyddau ffosil.
Anfanteision defnyddio tanwyddau ffosil
- Mae tanwyddau ffosil yn adnoddau egni anadnewyddadwy. Mae eu cyflenwad yn gyfyngedig a byddan nhw’n dod i ben yn y pen draw tra bod modd adnewyddu tanwyddau megis pren yn gyson.
- Mae glo ac olew yn rhyddhau nwy sylffwr deuocsid wrth losgi ac yn cyfrannu at law asid.
- Mae tanwyddau ffosil yn rhyddhau carbon deuocsid wrth losgi sy’n ychwanegu at yr effaith tŷ gwydr ac yn cynyddu cynhesu byd-eangY cynnydd yn nhymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear.. Ar gyfer swm penodol o egni sy’n cael ei ryddhau gan y tri thanwydd ffosil, glo sy’n cynhyrchu’r mwyaf o garbon deuocsid a nwy naturiol sy’n cynhyrchu’r lleiaf o garbon deuocsid.
Dal carbon
Mae dal a storio carbon yn ffordd o atal carbon deuocsid rhag datblygu yn yr atmosffer. Mae’n dechnoleg sy’n esblygu yn gyflym sy’n ymwneud â gwahanu carbon deuocsid oddi wrth nwyon gwastraff. Mae’r carbon deuocsid yn cael ei storio o dan y ddaear wedyn, er enghraifft mewn hen feysydd olew neu nwy megis y rhai o dan Fôr y Gogledd.