Ffynonellau egni
Dros y 200 mlynedd diwethaf, mae mwy a mwy o’n hegni wedi dod o ffynonellau anadnewyddadwyAdnodd na ellir ei amnewid ar ôl ei ddefnyddio, fel olew, nwy naturiol neu lo. fel olew a glo. Er bod y galw am egni’n cynyddu, mae’r adnoddau hyn yn dod i ben, ac mae gwyddonwyr yn archwilio potensial ffynonellau egni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol.
Adnoddau egni adnewyddadwy ac anadnewyddadwy
Egni o’r haul sy’n cynnal yr holl fywyd ar y Ddaear. Mae planhigion ac anifeiliaid yn gallu storio egni ac mae rhywfaint o’r egni hwn yn aros gyda nhw pan maen nhw’n marw. Gweddillion yr hen anifeiliaid a phlanhigion hyn sy’n gwneud tanwydd ffosilTanwydd sydd wedi'i wneud o weddillion planhigion ac anifeiliaid hynafol, ee glo, olew a nwy naturiol..
Mae tanwyddau ffosil yn anadnewyddadwy oherwydd byddan nhw’n dod i ben rhyw ddydd. Mae llosgi tanwyddau ffosil yn cynhyrchu nwy tŷ gwydrY math o nwy sy'n gyfrifol am gynhesu byd-eang, ee carbon deuocsid, methan, nitrus ocsid a clorofflworocarbonau (CFfCau). ac mae dibynnu ar y rhain i gynhyrchu egni yn anghynaliadwyAdnodd na ellir ei gyfnewid pan fydd yn dod i ben, fel olew, nwy naturiol neu lo. Er enghraifft, mae defnyddio tanwyddau ffosil yn anghynaliadwy.. Felly, mae angen dod o hyd i ffyrdd mwy adnewyddadwy a chynaliadwy o gynhyrchu egni.
Gallwn ni ystyried bod rhai adnoddau’n adnewyddadwy ac yn anadnewyddadwy, fel pren a biomasMàs sych organeb ydy biomas..
Biomas a phren
Mae egni biomas yn cael ei gynhyrchu wrth i wastraff planhigion neu anifeiliaid bydru. Mae hefyd yn gallu bod yn ddefnydd organig sy’n cael ei losgi i ddarparu egni, ee gwres, neu drydan. Un enghraifft o egni biomas yw had rêp (blodau melyn sydd i’w gweld yn y Deyrnas Unedig yn yr haf), sy’n cynhyrchu olew. Ar ôl ei drin â chemegion, gallwn ni ei ddefnyddio fel tanwydd mewn peiriannau diesel.
Rydyn ni’n cael pren drwy dorri coed, ac yn ei losgi i gynhyrchu gwres a golau.
Manteision biomas a phren
- Ffynhonnell egni rad sydd ar gael yn rhwydd.
- Os ydyn ni’n eu hailgyflenwi nhw, maent yn gallu bod yn ffynhonnell egni gynaliadwy a hirdymor.
- Maen nhw’n amsugno’r un faint o CO2 o’r atmosffer wrth dyfu ag maen nhw’n ei ryddhau wrth losgi.
- Yn gyffredinol dydy lefelau CO2 ddim yn cynyddu.
Anfanteision biomas a phren
- Wrth losgi, maent yn rhyddhau llygryddion atmosfferig.
- Maen nhw’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr fel anwedd dŵr, carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrus.
- Mae coed yn amsugno CO2 dros flynyddoedd lawer ond yn gallu ei ryddhau’n gyflym iawn wrth losgi.