Y Grid Cenedlaethol
Mae trydan yn cael ei ddosbarthu o orsafoedd trydan i ddefnyddwyr drwy’r Grid Cenedlaethol, sy’n ein galluogi ni i ddefnyddio gorsafoedd trydan pell. Mae hefyd yn ein galluogi ni i ddefnyddio cymysgedd o wahanol ffynonellau egni yn effeithlon i gyflenwi trydan y wlad, beth bynnag yw’r galw lleol.
Mae’r Grid Cenedlaethol yn sicrhau cyflenwad trydan dibynadwy. Os yw un orsaf drydan yn torri i lawr, mae’r grid yn dal i gyflenwi trydan o’r gorsafoedd eraill yn y grid. Mae’r Grid Cenedlaethol hefyd yn ymateb i’r galw am drydan – gan gyflenwi mwy ar adegau prysur.
Prif nodweddion
Mae’r diagram hwn yn dangos prif nodweddion y Grid Cenedlaethol.
Mae gorsafoedd trydan yn cynhyrchu trydan ar 25,000 V. Mae newidyddion codi yn newid y foltedd i’r gwerthoedd uchel iawn sydd eu hangen i drosglwyddo trydan ar hyd llinellau pŵer y Grid Cenedlaethol. Mae trydan yn cael ei anfon drwy’r rhain ar 400,000 V, 275,000 V neu 132,000 V. Mae foltedd trydan mewn cartrefi tua 230 V.
Gallwn ni ddefnyddio’r hafaliad hwn i gyfrifo pŵer trydanol.
\(\text{pŵer = }{\text{cerrynt}}\times{\text{foltedd}}\)
Question
Mae gorsaf drydan yn cynhyrchu 3 × 109 W o bŵer â cherrynt o 4 × 104 A. Cyfrifa’r foltedd sy’n cael ei gynhyrchu.
\(\text {foltedd = }\frac{\text{pŵer}}{\text{cerrynt}}\)
= (3 × 109) ÷ (4 × 104)
= 75,000 V
Question
Mae’r newidydd yn cynyddu’r foltedd o ffactor o 6. Beth yw’r cerrynt allbwn? Tybia fod effeithlonrwydd y newidydd yn 100%.
Os yw effeithlonrwydd y newidydd yn 100%, mae’r pŵer mewnbwn yn hafal i’r pŵer allbwn.
Pŵer allbwn = 3 × 109 W
Mae’r pŵer allbwn 6 gwaith yn fwy na’r foltedd mewnbwn. 75,000 × 6 = 450,000 V
\(\text {foltedd = }\frac{\text{pŵer}}{\text{cerrynt}}\)
= (3 × 109) ÷ 450,000
= 6,667 A
Sylwa fod y cerrynt hwn 6 gwaith yn llai na’r cerrynt mewnbwn – gallen ni fod wedi rhannu’r cerrynt mewnbwn â 6. Mae’n ddefnyddiol gallu ei gyfrifo’n llawn rhag ofn bod y cwestiwn yn sôn am newidydd ag effeithlonrwydd llai na 100%.