Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.
Mae gorsafoedd trydan sy’n defnyddio tanwyddau ffosil neu danwyddau niwclear yn ffynonellau egni dibynadwy, sy’n golygu eu bod yn gallu darparu trydan pryd bynnag y mae ei angen. Fodd bynnag, mae’r amser sydd ei angen i’w tanio yn amrywio yn ôl y math o danwydd sy’n cael ei ddefnyddio.
Mae’r rhestr hon yn dangos y math o danwydd yn nhrefn amser tanio:
gorsaf sy’n defnyddio nwy (amser tanio byrraf)
gorsaf sy’n defnyddio olew
gorsaf sy’n defnyddio glo
atomfa (amser tanio hiraf)
Mae atomfeydd a gorsafoedd trydan sy’n defnyddio glo yn darparu trydan ‘llwyth sylfaenol’ fel arfer – maen nhw’n cael eu rhedeg drwy’r amser oherwydd eu bod yn cymryd yr amser hiraf i’w tanio.
Mae gorsafoedd trydan sy’n defnyddio olew a nwy yn cael eu defnyddio yn aml i ddarparu trydan ychwanegol ar adegau prysur, am eu bod yn cymryd yr amser byrraf i’w tanio. Mae’r tanwydd ar gyfer atomfeydd yn gymharol rad, ond mae’r atomfeydd eu hunain yn ddrud i’w hadeiladu. Mae hefyd yn ddrud iawn datgomisiynu hen atomfeydd a storio eu gwastraff ymbelydrol, sy’n beryglus iawn i iechyd pobl.
Adnoddau adnewyddadwy
Dydy adnoddau tanwydd adnewyddadwy megis egni o’r Haul ac egni gwynt ddim yn costio dim byd, ond mae’r cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r pŵer yn gallu bod yn ddrud i’w adeiladu.
Mae rhai adnoddau yn ddibynadwy, gan gynnwys argloddiau llanw a phŵer trydan dŵr. Mae eraill yn llai dibynadwy, gan gynnwys egni gwynt ac egni solar. Mae gan orsafoedd trydan dŵr amser cychwyn byr iawn ac rydyn ni’n eu defnyddio nhw i gyflenwi trydan yn gyflym pan mae’r galw’n uchel.