Tonnau arhydol ac ardraws
Dirgryniadau sy'n trosglwyddo egni o le i le yw tonnau. Mae tonnau'n gallu bod yn arhydol neu'n ardraws.
Tonnau ardraws
Mewn tonnau ardraws, mae’r dirgryniadauCryndod ar ffurf tonnau bychain. ar ongl sgwâr i gyfeiriad y teithio a’r trosglwyddiad egni.
Image caption, 1. Mae llaw’n dal darn o raff yn dynn
Image caption, 2. Mae’r llaw’n symud i lawr ac mae siâp u wyneb i waered yn ymddangos yn y rhaff
Image caption, 3. Mae’r llaw’n symud i fyny’n sydyn ac mae ail siâp u yn ymddangos yn y rhaff
1 of 3
Mae enghreifftiau o donnau ardraws yn cynnwys:
- pob math o donnau electromagnetig
- tonnau dŵr
- ton SMath o don seismig sy’n cael ei chynhyrchu wrth i’r Ddaear symud ar raddfa fawr, ee mewn daeargrynfeydd. Tonnau ardraws ydyn nhw - mae eu dirgryniadau'n digwydd ar 90 gradd i’r cyfeiriad y mae’r tonnau’n teithio. Mae tonnau S yn teithio drwy solidau ond nid hylifau. seismig
Tonnau arhydol
Mewn tonnau arhydol mae’r dirgryniadau yn mynd yn yr un cyfeiriad â’r cyfeiriad teithio a’r trosglwyddiad egni. Mae tonnau arhydol yn dangos mannau o cywasgiadArdal o wasgedd. Mewn tonnau arhydol, mae’r gronynnau mewn ardaloedd o gywasgedd yn nes at ei gilydd na’r arfer. a teneuadArdal o wasgedd is. Mewn tonnau arhydol, mae’r gronynnau mewn ardaloedd o deneuad ymhellach oddi wrth ei gilydd nag y mae'r gronynnau ar gyfartaledd.. Edrycha sut mae’r cywasgiad yn digwydd yn y mannau ble mae rhannau’r sbring yn agos at ei gilydd. Mae teneuad yn digwydd pan mae’r rhannau ymhell oddi wrth ei gilydd.
Image caption, 1. Sbring wedi ei ymestyn
Image caption, 2. Mae deg coil ar un pen y sbring wedi eu cywasgu
Image caption, 3. Mae deg coil ar y pen arall wedi eu cywasgu
1 of 3
Mae enghreifftiau o donnau arhydol yn cynnwys:
- tonnau sain
- ton PMath o don seismig sy’n cael ei chreu yn ystod symudiadau daear ar raddfa fawr, ee daeargrynfeydd. Maen nhw’n donnau arhydol - mae eu dirgryniadau yn digwydd yn yr un cyfeiriad ag y mae’r tonnau’n teithio. Mae tonnau P yn teithio drwy hylifau a solidau. seismig