Llinellau maes magnetig
Mae magnetGwrthrych sy’n cynhyrchu maes magnetig sy’n tynnu ar ddeunyddiau magnetig eraill ac sy’n atynnu neu’n gwrthyrru gwrthrychau eraill. yn creu meysydd magnetig. Allwn ni ddim gweld y meysydd magnetig hyn. Maen nhw'n llenwi’r lle o gwmpas magnet lle mae’r grymoedd magnetig yn gweithio, a lle gallant atynnu neu wrthyrru defnyddiau magnetig.
Dod o hyd i feysydd magnetig
Er na allwn ni weld meysydd magnetig, gallwn ni ddefnyddio naddion haearn i’w canfod nhw. Mae’r darnau bach o haearn yn trefnu eu hunain mewn maes magnetig.

Lluniadu diagramau meysydd magnetig
Byddai’n anodd lluniadu canlyniadau’r math o arbrawf sydd wedi’i ddangos yn y ffotograff, felly rydyn ni’n lluniadu llinellau maes magnetig syml yn lle hynny.
Sylwa yn y diagram:
- mae saethau ar y llinellau maes
- mae’r llinellau maes yn dod allan o G (pôl gogledd) ac yn mynd i mewn i D (pôl de)
- mae’r llinellau maes yn agosach at ei gilydd wrth y pôlUn o ddau bwynt ar fagnet, sef i ac o'r pwynt lle mae grym magnetig yn cael eu cyfeirio. Mae gan fagnet ddau bôl, pôl gogledd a phôl de.
Mae’r maes magnetig ar ei gryfaf wrth y polau, lle mae’r llinellau maes agosaf at ei gilydd.
Dau farfagnet
Mae'r diagram hwn yn dangos y patrwm maes magnetig wrth ddefnyddio dau fagnet.
Sylwa ar y gwahanol batrymau sydd i'w gweld wrth ddefnyddio dau bôl yr un fath a dau bôl gwahanol.
Maes magnetig unffurf
Os yw llinellau maes magnetig yr un pellter oddi wrth ei gilydd, rydyn ni'n dweud bod y maes magnetig yn unffurf.
Mae’r diagram yn dangos hyn:
Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer disgyblion haen uwch yn unig.
I gyfrifo cryfder grym magnetig ar wifren, rhaid i ti ganfod y dwysedd fflwcs magnetigDyma faint o fflwcs sy'n pasio drwy uned arwynebedd ar ongl sgwâr yn erbyn llinellau'r maes magnetig. Mae'n cael ei fesur mewn Tesla (T).. Rydyn ni'n mesur hyn mewn uned o’r enw tesla. Rydyn ni'n tynnu llinellau i ddangos y cyfeiriad ar bôl gogledd magnet i gynrychioli hyn. Rydyn ni'n galw'r rhain yn llinellau fflwcs magnetig, ac maent wedi'u dangos yn y diagram uchod. Mae'r magnet yn niagram B yn gryfach na'r magnet yn niagram A. Mae mwy o linellau'n golygu grym atynnu cryfach.