Os oes cerrynt trydanol yn llifo mewn gwifren, bydd grym yn gweithredu arni a'i symud. Mae troelli magnet mewn coil o wifren yn cynhyrchu trydan. Mae newidyddion yn newid maint folteddau eiledol.
Mae newidyddion yn cael eu defnyddio i gynyddu neu i leihau foltedd ceryntau eiledol. Mae newidydd yn cynnwys dau o goiliau gwifren wedi’u clymu o amgylch craidd metel.
Ar un o’r coiliau mae foltedd eiledol yn gweithredu arno (y coil cynradd). Mae hyn yn achosi maes magnetig sy’n newid (eiledol) i ffurfio yn y craidd. Mae’r coil arall (y coil eilaidd) yn y maes magnetig hwn, ac felly mae foltedd eiledol yn cael ei anwytho ynddo.
Bydd maint y foltedd eilaidd yn dibynnu ar nifer y troeon ar y ddau goil - y cynradd a’r eilaidd – ac ar faint y foltedd c.e. sy’n gweithredu ar y coil.
Y berthynas sy’n cysylltu’r nifer o droeon ar bob coil a’r foltedd yw
Cyfrifa'r foltedd sy'n cael ei gymryd o goil eilaidd newidydd y prif gyflenwad (230 V), sydd â 11,500 tro yn y coil cynradd a 600 tro yn y coil eilaidd.