Os oes cerrynt trydanol yn llifo mewn gwifren, bydd grym yn gweithredu arni a'i symud. Mae troelli magnet mewn coil o wifren yn cynhyrchu trydan. Mae newidyddion yn newid maint folteddau eiledol.
Pan mae gwifren yn cael ei symud ym maes magnetig generadurDyfais sy’n trawsnewid egni cinetig yn egni trydanol., mae'r symudiad, y maes magnetig a'r cerryntLlif o wefrau, er enghraifft, electronau sy’n symud drwy wifren fetel. i gyd ar ongl sgwâr i'w gilydd. Os yw'r wifren yn cael ei symud i'r cyfeiriad dirgroes, mae'r cerrynt anwytholGan achosi neu wneud i rywbeth ddigwydd. Mae gwahaniaeth potensial yn cael ei achosi neu ei anwytho pan mae coil o wifren yn symud mewn maes magnetig. hefyd yn symud i'r cyfeiriad dirgroes.
Mewn generadur, mae un ochr coil yn symud i fyny yn ystod un hanner tro ac yna i lawr yn ystod yr hanner tro nesaf.
Mae hyn yn golygu, wrth i goil gael ei gylchdroi mewn maes magnetig, bod y cerrynt anwythol yn newid cyfeiriad bob hanner tro. Yr enw ar hyn yw cerrynt eiledol (c.e.).
Mae'n wahanol i'r cerrynt union (c.u.) sy'n cael ei gynhyrchu gan fatri sydd yn llifo i'r un cyfeiriad bob amser.
Figure caption,
Mudiant coil mewn generadur c.e.
Fel rheol mewn generadur, mae'r coil yn sefydlog ac wedi'i fowntio y tu allan i'r magnet, a'r magnet sy'n symud.
Gallwn ni gynyddu maint y folteddGwahaniaeth potensial cell, cyflenwad trydanol neu gydran drydan. Mae’n cael ei fesur mewn foltiau, ‘V’. anwythol drwy wneud y canlynol:
cylchdroi'r coil neu'r magnet yn gyflymach
defnyddio magnet â maes magnetig cryfach
rhoi mwy o droeon yn y wifren yn y coil
rhoi craidd haearn yn y coil
Mae trydan y prif gyflenwad yn gyflenwad c.e. Mae'r foltedd mae'n ei gyflenwi i'n cartrefi tua 230 V (folt).