Os oes cerrynt trydanol yn llifo mewn gwifren, bydd grym yn gweithredu arni a'i symud. Mae troelli magnet mewn coil o wifren yn cynhyrchu trydan. Mae newidyddion yn newid maint folteddau eiledol.
Mae'r gymhareb rhwng y folteddGwahaniaeth potensial cell, cyflenwad trydanol neu gydran drydan. Mae’n cael ei fesur mewn foltiau, ‘V’. yng nghoiliau newidyddDyfais drydanol sy’n cynyddu, neu’n lleihau, gwahaniaeth potensial (foltedd) cerrynt eiledol. Os ydy’r gwahaniaeth potensial yn cael ei gynyddu, mae’r cerrynt yn lleihau. Os ydy’r gwahaniaeth potensial yn lleihau, mae’r cerrynt yn cynyddu. yr un fath â chymhareb nifer y troeon yn y coiliau.
Gallwn ni ddangos y berthynas hon â’r hafaliad hwn.
\(\frac{\text{foltedd cynradd}}{\text{foltedd eilaidd}}{~=~}\frac{\text{troeon y coil cynradd}}{\text{troeon y coil eilaidd}}\)