ElectromagneteddAnwythiad electromagnetic

Os oes cerrynt trydanol yn llifo mewn gwifren, bydd grym yn gweithredu arni a'i symud. Mae troelli magnet mewn coil o wifren yn cynhyrchu trydan. Mae newidyddion yn newid maint folteddau eiledol.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Anwythiad electromagnetic

Gall magnet a choil o wifren gael eu defnyddio i gynhyrchu cerrynt trydanol. Mae foltedd yn cael ei gynhyrchu pan fydd magnet yn symud mewn coil o wifren. Enw’r broses hon yw . Bydd cyfeiriad y foltedd sy’n cael ei anwytho yn newid pan fydd y magnet yn symud o’r coil eto. Gall y cyfeiriad newid hefyd os yw pôl arall y magnet yn cael ei symud i mewn i’r coil.

Os yw’r coil yn rhan o gylched gyflawn, yna bydd cerrynt yn cael ei anwytho yn y gylched.

Sylwa nad oes foltedd yn cael ei anwytho pan mae’r magnet yn llonydd, hyd yn oed os yw’r magnet y tu mewn i’r coil.

I gynyddu’r anwythiad foltedd rhaid:

  • symud y magnet yn gynt
  • ychwanegu mwy o droadau i’r coil
  • cynyddu cryfder y magnet
Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Diagram yn dangos bar magnet y tu allan i goil gwifren wedi’i gysylltu ag amedr. Nid oes cerrynt., 1. Magnet bar yn gorffwys y tu allan i goil sydd wedi’i gysylltu ag amedr nad yw’n dangos cerrynt