Mae daeargrynfeydd yn cynhyrchu tonnau seismig. Gallwn ni ddefnyddio seismograffau i ganfod y tonnau hyn. Mae rhai tonnau seismig yn donnau arwyneb, ac mae rhai eraill yn gallu teithio drwy'r Ddaear.
Mae gan y Ddaear adeiledd haenog sy'n cynnwys y craidd, y fantell a'r gramen. Mae'r gramen a'r fantell uchaf wedi'u cracio'n ddarnau mawr o’r enw platiau tectonig. Mae'r platiau hyn yn symud yn araf, ond maent yn gallu achosi daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd yn y mannau lle maent yn cwrdd. Tonnau seismig sy’n cael eu cynhyrchu gan ddaeargrynfeydd. Maen nhw’n cael eu monitro gan arbenigwyr maes - daearegwyr.
Figure caption,
Trawstoriad yn dangos adeiledd y Ddaear
Mae’r Ddaear bron iawn yn sffêr. Dyma’r prif haenau, gan ddechrau gyda’r un mwyaf allanol:
cramen – cymharol denau a charegog
mantell – mae gan y fantell nodweddion solid ond mae’n gallu llifo’n araf iawn
craidd allanol – wedi ei wneud o nicel hylifol a haearn
craidd mewnol – wedi ei wneud o nicel solid a haearn
Sylwa fod radiws y craidd ychydig dros hanner radiws y Ddaear. Mae'r craidd ei hun yn cynnwys craidd mewnol solid a chraidd allanol hylifol.
Tonnau P a thonnau S
Mae dau fath o donnau seismig – tonnau P a thonnau S.
Mae tonnau P yn donnau arhydol, ac mae eu buanedd cymharol yn gynt na thonnau eraill. Gall tonnau P deithio drwy solidau a hylifau.
Mae tonnau S yn donnau ardraws, ac maen nhw’n arafach na thonnau P. Maen nhw’n teithio drwy solidau yn unig.
Mae tonnau arwyneb yn donnau arhydol hefyd. Tonnau arwyneb yw’r arafaf. Maen nhw’n teithio ar hyd arwyneb y Ddaear.