Dargludiad
Mae gwahaniaethau tymheredd yn arwain at drosglwyddo egni yn thermol drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad.
Dargludiad
- Mae dargludiad yn digwydd mewn solidau.
- Mae metelau yn ddargludyddion da.
- Mae anfetelau a nwyon yn ddargludyddion gwael fel rheol.
- Mae dargludyddion gwael yn cael eu galw’n ynysyddion.
- Mae egni gwres yn cael ei ddargludo o ben poeth gwrthrych i’w ben oer.
Dargludiad mewn anfetelau
Os yw un pen i solid yn cael ei wresogi, mae gronynnau'r solid yn ennill egni cinetigEgni cinetig yw'r egni sydd gan wrthrychau sy'n symud. sy'n achosi iddynt ddirgrynu mwy. Mae'r atomAtom yw rhan leiaf elfen sy'n dal i gadw priodweddau'r elfen honno. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy'n cynnwys protonau a niwtronau, ac electronau sy'n ei amgylchynu. mewn solid yn agos at ei gilydd ac felly mae'r egni o'r dirgryniadau hyn yn cael ei drosglwyddo i'r atom nesaf, sy'n golygu bod pob atom wedi hynny'n dirgrynu mwy. Mewn anfetelau, mae proses dargludiad yn araf.
Mae gronynnau mewn solid:
- yn gallu dirgrynu mewn safle sefydlog
- yn methu symud o le i le
Dargludiad mewn metelau
Mae'r electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. mewn darn o fetel yn gallu gadael eu hatomau a symud o gwmpas yn y metel fel electronau rhydd (neu ddadleoledig). Mae'r rhannau o'r atomau metel sy'n cael eu gadael ar ôl nawr yn ïonGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au). metel â gwefr bositif. Mae’r ïonau wedi’u pacio’n dynn ac maen nhw’n dirgrynu’n barhaus. Y poethaf yw’r metel, y mwyaf o egni cinetig sydd gan y dirgryniadau hyn. Mae’r egni cinetig hwn yn cael ei drosglwyddo o rannau poeth y metel i’r rhannau oerach gan yr electronau rhydd.
Mae’r rhain yn symud drwy adeiledd y metel, gan wrthdaro ag ïonau ar eu ffordd.
Image caption, Dargludiad mewn metel
Bar metel yn cael ei gynhesu
Image caption, Mae’r gwres yn creu egni yn yr atomau gan gynyddu dirgrynu
Image caption, Mae’r dirgryniad yn lledaenu drwy’r metel gan gynhesu’r bar cyfan
1 of 3
Ymchwilio i ddargludyddion
Gallwn ni gynnal arbrawf i ddarganfod pa fetel yw’r dargludydd gwres gorau. Mae'n defnyddio stribedi hir tenau o wahanol fetelau (ee haearn, alwminiwm a chopr), cwyr, pinnau bawd a llosgydd Bunsen.
Dull
- Defnyddia ddiferion o gwyr i glymu’r pin bawd i ben y stribed metel.
- Rho ben arall y stribed metel mewn fflam Bunsen.
- Cofnoda faint o amser y mae’n ei gymryd i’r cwyr doddi ac i’r pin bawd ddisgyn.
Mae’r amser cyflymaf yn dangos y dargludydd gwres gorau.
Mae’r newidynnau sy’n effeithio ar yr amser y mae’n ei gymryd i’r pinnau bawd ddisgyn yn cynnwys eu pellter o’r fflam a pha mor drwchus ydy’r metel.
Os wyt ti wedi rheoli’r holl newidynnau hyn, dylet ti weld bod copr yn dargludo’n well nag alwminiwm, tra bod alwminiwm yn dargludo’n well na haearn.