Defnyddio egniCostau ac amser talu’n ôl

Mae egni gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o le i le drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae deall sut i reoli'r prosesau hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio llai o egni.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Costau ac amser talu’n ôl

Mae ynysu adeilad yn ei wneud yn fwy effeithlon o ran egni. Mae hynny’n golygu bod angen i ni ddefnyddio llai o egni i wresogi'r adeilad gan fod llai'n cael ei golli i'r amgylchedd. Mae hyn yn enghraifft o gadwraeth egni, a gallai hyn arwain at lai o lygredd a helpu i wneud i stociau tanwyddau ffosil barhau'n hirach.

Mae rhai perchenogion tai yn gosod gwydrau dwbl neu ynysiad ychwanegol i leihau colledion egni gwres ac felly arbed arian. Fodd bynnag, mae'r datrysiadau arbed egni hyn yn costio arian i'w prynu a'u gosod. Mae amser talu'n ôl dull arbed egni yn ffordd o fesur pa mor effeithiol o ran cost ydyw.

Bydd yr amser talu'n ôl yn fyrrach os yw'r gost gosod yn isel o'i chymharu â'r arbedion sy'n cael eu gwneud bob blwyddyn.

Cyfrifo amser talu'n ôl ynysiad domestig

\(\text{amser talu'n ôl}=\frac{\text{cost gosod}}{\text{arbedion blynyddol}}\)

Question

Mae'r gwydrau dwbl mewn tŷ yn costio £3,000 ond yn arbed £150 y flwyddyn mewn costau tanwydd. Beth yw’r amser talu'n ôl?