Darfudiad
Mae gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o un lle i le arall drwy ddarfudiad mewn hylifau a nwyon (llifyddion).
Llifyddion
Llifyddion ydy hylifau a nwyon gan ei bod yn bosibl gwneud iddyn nhw lifo. Gall y gronynTerm cyffredinol ar gyfer darn bach o fater. Gall olygu protonau, niwtronau, atomau, ïonau, neu foleciwlau, er enghraifft. sydd yn y llifyddion hyn symud o le i le. Mae darfudiad yn digwydd wrth i ronynnau sydd â llawer o egni gwres mewn hylif neu nwy symud, a chymryd lle gronynnau sydd â llai o egni gwres.
Darfudiad yw enw’r broses o drosglwyddo egni gwres o leoedd poeth i leoedd oerach.
Mae hylifau a nwyon yn ehangu wrth gael eu gwresogi.

Y rheswm am hyn yw bod y gronynnau mewn hylifau a nwyon yn symud yn gyflymach wrth gael eu gwresogi nag ydyn nhw pan maen nhw’n oer.
O ganlyniad, mae’r gronynnau angen cyfaint mwy. Y rheswm am hyn yw bod y bwlch rhwng y gronynnau yn lledu, tra bod y gronynnau eu hunain yn aros yr un faint.
Mae’r hylif neu’r nwy mewn mannau poeth yn llai dwysMae’r gronynnau mewn deunydd dwys yn nes at ei gilydd. Bydd cyfaint o ddeunydd mwy dwys yn pwyso mwy na’r un cyfaint o ddeunydd llai dwys. na’r hylif neu’r nwy mewn mannau oer, felly mae’n codi i’r mannau oer. Mae’r hylif neu’r nwy dwysach yn disgyn i’r mannau cynnes. Wrth i hyn ddigwydd, mae cerrynt darfudiad sy’n trosglwyddo gwres o le i le yn cael eu sefydlu.
Mae ceryntau darfudiad i’w gweld mewn lampau lafa. Mae’r cwyr yn y lamp yn cynhesu, yn mynd yn llai dwys na’r hylif ac yn codi. Wrth godi, mae’n oeri ac yn mynd yn ddwysach eto, felly mae’n suddo. Mae’n bosibl gweld yr un effaith drwy roi crisial o botasiwm permanganad mewn bicer o ddŵr a’i gynhesu’n araf.
Mae darfudiad yn esbonio pam y mae balwnau aer poeth yn codi, a hefyd pam y mae’n gynhesach yn y llofft nag i lawr grisiau yn aml.
Yn ogystal â’r enghreifftiau hyn, mae darfudiad yn cael ei weld ar raddfa fwy o lawer yn ein tywydd ac yng ngheryntau'r cefnforoedd.