Mae egni gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o le i le drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae deall sut i reoli'r prosesau hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio llai o egni.
Mae’n bosibl trosglwyddo gwres drwy belydriad isgochYstod o donfeddi pelydriad anweledig. Rhan o’r sbectrwm electromagnetig gyda thonfedd hirach na golau ond tonfedd fyrrach na thonnau radio.. Yn wahanol i dargludiadEgni yn cael ei drosglwyddo drwy ddeunydd – heb i’r deunydd ei hun symud. a darfudiadTrosglwyddo egni gwres drwy hylif neu nwy sy’n symud. – sydd angen gronynnau – math o belydriad electromagnetig sy’n ymwneud â thonnau yw pelydriad isgoch.
Image caption,
Golau o’r haul yn cyrraedd y ddaear
Yn wahanol i’r prosesau dargludiad a darfudiad, dydy gronynnau ddim yn chwarae unrhyw ran mewn pelydriad, felly gall pelydriad ddigwydd trwy gwactodCyfaint nad ydy’n cynnwys unrhyw fater. y gofod hyd yn oed. Dyma pam y gallwn deimlo gwres yr Haul er ei fod 150 miliwn o gilometrau o’r Ddaear.
Arwynebau gwahanol
Mae rhai arwynebau yn well nag eraill am adlewyrchu ac amsugno pelydriad isgoch. Mae’r tabl hwn yn crynhoi rhai gwahaniaethau.