Defnyddio egniDwysedd

Mae egni gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o le i le drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae deall sut i reoli'r prosesau hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio llai o egni.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Dwysedd

Màs fesul uned o gyfaint yw dwysedd.

Er mwyn cyfrifo dwysedd, mae angen defnyddio’r hafaliad hwn.

\(\text{dwysedd}=\frac{\text{màs}}{\text{cyfaint}}\)

\(p=\frac{m}{V}\)

Uned dwysedd ydy kg/m3. Mae dwysedd dŵr tua 1,000 kg/m3 ac mae dwysedd aer tua 1.2 kg/m3.

Weithiau rydyn ni'n mesur dwysedd mewn g/cm3. Gwna'n siŵr dy fod ti'n defnyddio unedau sy'n gyson â'r cwestiwn mewn arholiad.

Mesur dwysedd

Ciwboid. Mae lled, hyd ac uchder wedi’u labelu.

I fesur dwysedd solid siâp rheolaidd, rhaid i ti fesur ochrau'r gwrthrych, a chyfrifo ei gyfaint.

\(\text{cyfaint =}~{\text{hyd}}\times{\text{uchder}}\times{\text{lled}}\)

Cofnoda fàs y gwrthrych a chyfrifa ei ddwysedd gan ddefnyddio'r hafaliad hwn.

\(\text{dwysedd}=\frac{\text{màs}}{\text{cyfaint}}\)

Os yw'r gwrthrych yn siâp afreolaidd, mae angen i ni roi'r solid mewn silindr o ddŵr a chofnodi faint mae'r cyfaint yn cynyddu er mwyn cyfrifo cyfaint y gwrthrych.

Dau silindr mesur. Mae’r un ar y chwith yn cynnwys 28 uned o hylif. Mae’r un ar y dde yn cynnwys gwrthrych afreolaidd a dŵr. Lefel yr hylif yw 33 uned.

Gallwn ni gofnodi màs y gwrthrych a chyfrifo ei ddwysedd gan ddefnyddio'r hafaliad hwn.

\(\text{dwysedd}=\frac{\text{màs}}{\text{cyfaint}}\)

Mae'r diagram isod yn dangos pam mae dwyseddau solidau yn tueddu i fod yn fwy na hylifau a pham mae dwysedd hylifau yn fwy na nwyon.

Diagram yn dangos dwyseddau gwahanol solid, hylif a nwy. Mae'r cylchoedd coch yn y ciwbiau tryloyw yn cynrychioli’r gronynnau. Mae’r solid yn fwy dwys na hylif sydd yn fwy dwys na nwy.