Trydan domestigCilowat awr a chost trydan

Mae trydan domestig yn archwilio cylchedau trydanol a'r dyfeisiau diogelwch o gwmpas y cartref, fel ffiwsiau a thorwyr cylchedau, cylch y brif gylched a swyddogaethau'r gwifrau byw, niwtral a daear.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Cilowat awr a chost trydan

Talu am drydan

Mae swm yr egni trydanol sy’n cael ei drosglwyddo i ddyfais yn dibynnu ar ei phŵer, ac ar faint o amser mae hi wedi ei chynnau. Rydyn ni’n defnyddio’r cilowat awr (kWh) fel uned egni i gyfrifo biliau trydan.

Mae’r hafaliad hwn yn dangos y berthynas rhwng egni sy’n cael ei drosglwyddo, pŵer ac amser.

\(\text{egni sy’n cael ei drosglwyddo (kWh)}={\text{pŵer (kW)}}\times{\text{amser (h)}}\)

Sylwa fod pŵer yn cael ei fesur mewn cilowatiau yma, yn hytrach na watiau fel sy’n fwy arferol. I drawsnewid o W i kW rhaid i ti rannu â 1,000.

Er enghraifft, 2,000 W = 2,000 ÷ 1,000 = 2 kW.

Sylwa hefyd fod amser yn cael ei fesur mewn oriau yma, yn hytrach nag eiliadau fel sy’n fwy arferol. I drawsnewid o eiliadau i oriau rhaid i ti rannu â 3,600.

Er enghraifft, 1,800 s = 1,800 ÷ 3,600 = 0.5 awr.

Y gost

Mae mesuryddion trydan yn mesur nifer yr unedau trydan sy’n cael eu defnyddio mewn cartref neu adeilad arall. Y mwyaf o unedau sy’n cael eu defnyddio, y mwyaf yw’r gost. Dyma sut rydyn ni’n cyfrifo cost y trydan sydd wedi’i ddefnyddio.

\(\text{unedau sy’n cael eu defnyddio (kWh)}={\text{pŵer (kW)}}\times{\text{amser (h)}}\)

\(\text{cost}={\text{unedau sy’n cael eu defnyddio}}\times{\text{cost un uned}}\)

Enghraifft

Mae angen 2 kW ar dân trydan. Mae’n cael ei gynnau am 3 awr. Os yw pob kWh yn costio 15c, faint mae’n ei gostio i redeg y tân?

Unedau sy’n cael eu defnyddio (kWh) = 2 × 3 = 6 kWh

Cost = 6 × 15 = 90c

Gwna’n siŵr dy fod ti’n gallu trawsnewid rhwng punnoedd (£) a cheiniogau (c).

£1 = 100c

Question

Mae angen 250 W ar set deledu. Mae’n cael ei chynnau am 30 munud. Os yw pob uned (kWh) yn costio 16c, faint mae’n ei gostio i gynnal y teledu?

Cofia, mae angen i ti drawsnewid y pŵer i kW a’r amser i oriau.

Efallai y bydd angen i ti hefyd drawsnewid o ddiwrnodau i oriau.

Question

Mae golau 100W yn cael ei adael ymlaen am 3 diwrnod. Os yw pob uned drydan yn costio 12c, faint mae’n ei gostio i gynnal y golau?

Trawsnewid rhwng cilowat oriau a jouleau

Mae’r egni mewn jouleau yn hafal i’r pŵer mewn watiau × amser mewn eiliadau.

\(\text{egni (J)}={\text{pŵer (W)}}\times{\text{amser (s)}}\)

Question

Mae 1 kWh yn hafal i faint o jouleau o egni?

Cofia, 1 kWh yw’r egni trydanol mae dyfais 1 kW yn ei ddefnyddio mewn 1 awr.