Ffiwsiau a thorwyr cylchedau
Mae ffiwsiau a thorwyr cylchedau yn diogelu cylchedau a dyfeisiau trydanol.
Ffiwsiau
Pwrpas ffiws ydy torri’r gylched os bydd nam mewn dyfais yn gwneud i ormod o gerrynt lifo. Mae hyn yn diogelu’r gwifrau a’r ddyfais os bydd nam yn digwydd. Mae’r ffiws yn cynnwys darn o fetel sy’n toddi’n hawdd. Os yw’r cerrynt sy’n mynd drwy’r ffiws yn rhy fawr, bydd y wifren yn poethi hyd nes iddi doddi a thorri’r gylched.
Mae’r ffiwsiau sydd mewn plygiau wedi cael eu graddio ar gyfer gwerthoedd safonol. Y cyfraddiadau mwyaf cyffredin ydy 3 A, 5 A a 13 A. Dylet ti ddefnyddio ffiws sydd wedi’i raddio ar gyfer cludo cerrynt ychydig yn uwch na’r hyn sydd ei angen ar y ddyfais:
- os yw’r ddyfais yn gweithio ar 3 A, defnyddia ffiws 5 A
- os yw’r ddyfais yn gweithio ar 10 A, defnyddia ffiws 13 A
Cyfrifo gwerth y ffiws sydd ei angen
Mae modd ad-drefnu’r hafaliad P = I × V i ganfod y cerrynt os wyt ti’n gwybod gwerth y pŵer a’r foltedd.
I = P ÷ V
Er enghraifft, pa gerrynt sy’n llifo drwy dân trydan 1.4 kW ar gwahaniaeth potensialY foltedd rhwng dau bwynt sy’n gwneud i gerrynt trydan lifo rhyngddynt. o 230 V? Cofia fod 1.4 kW yn hafal i 1,400 W.
Cerrynt = 1,400 ÷ 230 = 6 A
Y ffiws gorau i’w ddefnyddio yn yr enghraifft hon yw’r ffiws 13 A. Byddai’r ffiwsiau 3 A a 5 A yn chwythu hyd yn oed pan fyddai’r tân yn gweithio fel arfer.
Torwyr cylchedau

Switshis trydanol awtomatig sy’n diogelu cylchedau trydanol rhag gorlwytho neu droi yn gylchedau byr ydy torwyr cylchedau. Maen nhw’n canfod namau ac yn atal llif y trydan. Mae torwyr cylchedau bach yn diogelu dyfeisiau tŷ unigol, tra bod torwyr cylchedau mawr yn gallu diogelu cylchedau foltedd uchel sy’n cyflenwi trydan i ddinasoedd cyfan.
Torrwr cylched bychan
Mae torrwr cylched bychan yn ailosod ac yn defnyddio electromagnet i agor switsh os yw’r cerrynt yn mynd dros werth penodol. Mae torrwr cylched bychan yn diffodd y cerrynt yn gyflymach na ffiws.
Torrwr cylched gweddilliol
Mae torrwr cylched gweddillol yn diffodd y gylched os oes gwahaniaeth rhwng y ceryntau yng ngwifrau byw a niwtral y ddyfais. Mae torrwr cylched gweddilliol yn fwy sensitif na thorrwr cylched bychan.