Trydan domestigCylch y prif gyflenwad

Mae trydan domestig yn archwilio cylchedau trydanol a'r dyfeisiau diogelwch o gwmpas y cartref, fel ffiwsiau a thorwyr cylchedau, cylch y brif gylched a swyddogaethau'r gwifrau byw, niwtral a daear.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Cylch y prif gyflenwad

Yn yr arholiad, efallai y bydd angen i ti ddehongli diagram cylch prif gyflenwad, tebyg i hwn.

Diagram o gylched wedi’i labelu â Soced, Cainc at y popty, Byw, Niwtral, Daearu, Mesurydd, Cynffonnau, Ffiws, Llawr.

Y prif gyflenwad

Mae’r gwifro mewn tŷ yn cysylltu pob dyfais gyda’i gilydd yn baralel. Mae hyn yn golygu bod pob dyfais yn derbyn y prif gyflenwad o 230 folt ar ei thraws, a bod pob un yn gallu cael ei chynnau a’i diffodd yn annibynnol.

Mae’r uned defnyddiwr yn cynnwys y prif switsh a ffiwsiau’r holl gylchedau sefydlog, fel cylched y cylch pŵer a’r gylched goleuo.

Mae’r socedi pŵer mewn tŷ wedi’u cysylltu â chylched gylch. Mewn cylched gylch mae’r gwifrau byw, niwtral a daear yn ffurfio dolen o gebl sy’n mynd o’r uned defnyddiwr i bob soced yn ei thro ac yna’n ôl i’r uned defnyddiwr.

  • Mae’r wifren fyw yn cludo cerrynt i’r tŷ/i’r ddyfais ar foltedd uchel.
  • Mae’r wifren niwtral yn cwblhau’r gylched ac yn cludo cerrynt i ffwrdd ar foltedd isel neu foltedd o sero.
  • Mae’r wifren ddaear yn gallu cludo cerrynt yn ddiogel i’r ddaear os oes nam yn datblygu mewn dyfais â ffrâm fetel.
  • Mae gorchuddion metel ar lawer o ddyfeisiau trydanol, gan gynnwys poptai a pheiriannau golchi.
  • Mae’r wifren ddaear yn creu llwybr diogel i’r cerrynt lifo drwyddo, os yw’r wifren fyw’n cyffwrdd â’r gorchudd.

Os yw gwifren fyw mewn dyfais, fel popty, yn dod yn rhydd ac yn cyffwrdd â’r gorchudd metel, gallai achosi sioc drydanol. Mae’r derfynell ddaear wedi’i chysylltu â’r gorchudd metel, felly yn yr achos hwnnw byddai’r cerrynt yn mynd drwy’r wifren ddaear yn lle achosi sioc drydanol. Mae cerrynt cryf yn tonni drwy’r wifren ddaear oherwydd mae ei gwrthiant yn isel iawn. Mae hyn yn torri’r ffiws neu’n rhyddhau’r torrwr cylched bychan ac yn datgysylltu’r ddyfais. Mae switshis a ffiwsiau yn cael eu rhoi yn y wifren fyw.

Beth yw manteision defnyddio cylched baralel ddolennog?

  • Mae dau lwybr i’r cerrynt, sy’n golygu bod y ceblau’n gallu bod yn deneuach.
  • Mae llai o gerrynt yn cael ei gludo ym mhob rhan o’r cebl.
  • Cyfleustra – gallwn ni osod socedi yn unrhyw le ar y cylch, ac felly eu gweithredu nhw ar wahân ar foltedd o 230V.
Diagram o gylched baralel ddolennog yn dangos cyflenwad pŵer c.e., gwifrau a thri soced.
Figure caption,
Cylched baralel ddolennog