Mae trydan domestig yn archwilio cylchedau trydanol a'r dyfeisiau diogelwch o gwmpas y cartref, fel ffiwsiau a thorwyr cylchedau, cylch y brif gylched a swyddogaethau'r gwifrau byw, niwtral a daear.
Yr enw am cerryntLlif o wefrau, er enghraifft, electronau sy’n symud drwy wifren fetel. sy’n newid cyfeiriad yn gyson yw cerrynt eiledol, neu c.e. Mae trydan o’r prif gyflenwad yn gyflenwad c.e. Mae prif gyflenwad trydan y Deyrnas Unedig tua 230 V. Amledd y prif gyflenwad ydy 50 Hz, sy’n golygu ei fod yn newid cyfeiriad ac yn ôl eto 50 gwaith yr eiliad. Mae’r diagram yn dangos sgrin osgilosgopDyfais sy’n cael ei defnyddio i fesur ac arsylwi ar signalau trydanol dros amser. sy’n arddangos y signal o gyflenwad c.e.
Figure caption,
Olin osgilosgop yn dangos cerrynt eiledol
Cerrynt union (c.u.)
Yr enw am gerrynt sy’n llifo mewn un cyfeiriad yn unig yw cerrynt union, neu c.u. Mae batrïau a chelloedd solar yn cyflenwi trydan c.u. Gall batri cyffredin gyflenwi 1.5 V. Mae’r diagram yn dangos sgrin osgilosgop sy’n arddangos y signal o gyflenwad c.u.