Adlewyrchiad mewnol cyflawn tonnauYr amodau ar gyfer adlewyrchiad mewnol cyflawn
Archwiliad o'r amodau sydd eu hangen ar gyfer adlewyrchiad mewnol cyflawn yw hwn. Mae'n trin a thrafod y defnyddio ffibrau optegol mewn adlewyrchiad mewnol cyflawn at ddiben meddygol a chyfathrebu.
Pan mae golau'n teithio i mewn i cyfrwngUnrhyw fath o sylwedd, fel dŵr, aer neu wydr. gwahanol, mae buanedd y golau'n newid ac mae'r golau'n plygu (am fwy o wybodaeth cer i Nodweddion tonnau).
Pan mae golau'n teithio o gyfrwng mwy dwys, ee golau, i gyfrwng llai dwys, ee aer, mae buanedd y golau'n cynyddu ac mae'r golau'n plygu oddi wrth y normalY llinell ddychmygol rydyn ni’n ei gosod ar onglau sgwâr i arwyneb lle mae’r don yn taro’r arwyneb. Mae’n cael ei defnyddio i fesur onglau trawiad, adlewyrchiad a phlygiant.. Mae'r ongl blygiantYr ongl rhwng y normal a’r pelydr sydd wedi'i blygu. yn fwy na'r ongl drawiadYr ongl rhwng y llinell normal a’r pelydryn trawol..
Mae’r diagram yn dangos y golau'n plygu o wydr i mewn i aer.
Wrth i'r ongl drawiad gynyddu, mae'r ongl blygiant hefyd yn cynyddu. Ar ongl drawiad benodol, bydd y golau'n plygu 90 gradd ac yn teithio ar hyd y ffin rhwng y ddau gyfrwng. Enw’r ongl drawiad hon yw’r ongl gritigol.
Mae maint yr ongl gritigol yn amrywio mewn gwahanol ddefnyddiau, ond mae'n ddefnyddiol gwybod ei bod hi tua 42 gradd mewn gwydr. Cei di dy atgoffa o'r ffaith hon yn yr arholiad.
Mae'r diagram hwn yn dangos golau'n taro'r ffin rhwng y gwydr a'r aer ar ongl sy'n hafal i'r ongl gritigol.
Os yw'r ongl drawiad yn cael ei chynyddu eto, fel ei bod hi'n fwy na'r ongl gritigol, bydd y golau'n cael ei adlewyrchu'n fewnol yn gyflawn.
Dyma'r amodau sydd eu hangen ar gyfer adlewyrchiad mewnol cyflawn:
rhaid bod y golau'n teithio o gyfrwng mwy dwys i mewn i gyfrwng llai dwys (hy gwydr i aer)
rhaid bod yr ongl drawiad yn fwy na'r ongl gritigol