Tonnau seismigCanfod daeargryn

Mae daeargrynfeydd yn cynhyrchu tonnau seismig. Gallwn ni ddefnyddio seismograffau i ganfod y tonnau hyn. Mae rhai tonnau seismig yn donnau arwyneb, ac mae rhai eraill yn gallu teithio drwy'r Ddaear.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Canfod daeargryn

Gallwn ni ddefnyddio cofnodion seismig i ganfod lleoliad y daeargryn. Gallwn ni ddefnyddio’r oediad amser rhwng ton P a thon S yn cyrraedd yr orsaf seismomedr i ganfod pellter yr uwchganolbwynt oddi wrth yr orsaf.

O wybod yr oediad amser rhwng y tonnau, byddwn ni’n gwybod y pellter, ond nid y cyfeiriad. Bydd hyn yn rhoi pellter y daeargryn oddi wrth yr orsaf, ond nid y cyfeiriad.

Gallwn ni ddefnyddio gwybodaeth o dair gorsaf i leoli uwchganolbwynt y daeargryn.

Diagram o fap yn dangos lleoliad seismomedr. Mae llun cylch wedi’i ddarlunio gyda seismomedr yn ei ganol.
Figure caption,
Mae'r uwchganolbwynt wedi'i leoli yn rhywle ar y cylch sydd wedi'i ddangos
Map yn dangos lleoliad dau seismomedr. Mae llun dau gylch wedi’u darlunio gyda’r seismomedrau yn y canol. Mae’r uwchganolbwynt yn un o'r ddau leoliad lle mae’r cylchoedd yn croestorri.
Figure caption,
Mae ail seismomedr mewn lleoliad gwahanol yn gallu helpu i ganfod lleoliad yr uwchganolbwynt
Diagram yn dangos lleoliad tri seismomedr. Mae llun tri chylch wedi’u darlunio gyda’r seismomedrau yn y canol. Uwchganolbwynt y daeargryn yw lle mae’r tri chylch yn croestorri.
Figure caption,
Mae angen trydydd seismomedr er mwyn canfod lleoliad yr uwchganolbwynt