Os oes cerrynt trydanol yn llifo mewn gwifren, bydd grym yn gweithredu arni a'i symud. Mae troelli magnet mewn coil o wifren yn cynhyrchu trydan. Mae newidyddion yn newid maint folteddau eiledol.
Mae gan fagnetau bôl gogledd a phôl de. Mae patrymau llinellau maes yn dangos cyfeiriad a siâp maes magnetig. Rydyn ni'n defnyddio cwmpawd plotioCwmpawd magnetig bach sy’n cael ei ddefnyddio i ganfod meysydd magnetig. i wneud y diagramau hyn. Mewn diagramau o maes magnetigArdal o gwmpas deunydd magnetig neu ardal lle byddai gwefr drydanol yn profi grym. mae'r saethau ar y llinellau'n dangos y cyfeiriad o'r pôl gogledd i'r pôl de.
Mae maes magnetig hefyd yn cael ei greu wrth i gerrynt trydanol symud drwy goil o wifren.
Gallwn ni ddefnyddio cwmpawdau plotio i ddangos siâp a chyfeiriad y maes magnetig mae coil o wifren yn ei greu.
Gwifren syth
Figure caption,
Llinellau maes magnetig yn gysylltiedig â gwifrau sy'n cludo cerrynt trydanol
Coil crwn fflat
Figure caption,
Llinellau maes magnetig o gwmpas coil crwn
Solenoid
Sbiral tenau hir o wifren sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu maes magnetig yw solenoid.
Figure caption,
Llinellau maes magnetig o gwmpas solenoid
Figure caption,
Llinellau maes magnetig yn gysylltiedig â gwifrau sy'n cludo cerrynt trydanol