Cyflwyno termau allweddol ar gyfer nodweddion tonnau, a rhoi sylw hefyd i briodweddau'r sbectrwm EM a sut i'w ddefnyddio, cyfrifo buanedd tonnau a chyfathrebu â lloeren.
Mae’r sbectrwm electromagnetig yn grŵp o saith math o don sydd wedi'u gwneud o feysydd trydanol a magnetig. Mae priodweddau'r tonnau yn y sbectrwm yn dibynnu ar eu tonfedd a'u hamledd. Mae amleddau uwch yn trosglwyddo egnïon uwch.
Er bod tonfedd ac amledd y tonnau hyn i gyd yn wahanol, mae pob rhan o'r sbectrwm electromagnetig yn trosglwyddo egni. Un peth arall sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod nhw i gyd yn teithio ar yr un buanedd drwy wactod (gofod), sef buanedd golau neu tua 300,000,000 m/s (metr yr eiliad) hefyd 3 × 108 ms-1.
Bydd angen i ti ddysgu trefn y sbectrwm ar gyfer yr arholiad. Hefyd, mae angen i ti wybod sut rydyn ni'n defnyddio'r gwahanol donnau.
Mae'r term pelydriad yn gallu cyfeirio at donnau electromagnetig ac at egni sy'n cael ei ryddhau gan ddefnyddiau ymbelydrol. Mae rhannau tonfedd byr y sbectrwm electromagnetig (uwchfioled, pelydrau-X a phelydrau gama) yn gallu rhyngweithio ag atomau a niweidio celloedd â'r egni maen nhw'n ei gludo. Rydyn ni'n galw'r math hwn o belydriad yn pelydriad ïoneiddioPelydriad sy’n gallu cael gwared ar electronau o atomau neu foleciwlau i gynhyrchu gronynnau sydd wedi eu gwefru’n bositif o’r enw ïonau..