Nodweddion tonnauCyfrifo buanedd tonnau

Cyflwyno termau allweddol ar gyfer nodweddion tonnau, a rhoi sylw hefyd i briodweddau'r sbectrwm EM a sut i'w ddefnyddio, cyfrifo buanedd tonnau a chyfathrebu â lloeren.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Cyfrifo buanedd tonnau

Hafaliad buanedd tonnau

Mae buanedd ton yn berthnasol i a y don, yn ôl yr hafaliad hwn.

\(\text{v} = {\text{f}} \times \lambda\)

  • v ydy buanedd y don (metrau yr eiliad, m/s)
  • f ydy amledd y don (hertz, Hz)
  • λ (lambda) ydy tonfedd y don (metrau, m)
Diagram yn dangos y triongl fformiwla ar gyfer hafaliad buanedd ton.
Figure caption,
Triongl fformiwla ar gyfer yr hafaliad cyflymder tonnau

Mae pob ton, yn cynnwys tonnau sain a , yn dilyn yr hafaliad hwn. Mae’n bwysig nodi bod gan rai tonnau penodol fuanedd penodol eu hunain.

Os wyt ti'n astudio ar gyfer yr arholiad haen uwch, bydd angen i ti fod yn gyfarwydd â chyfrifiadau sy'n ymwneud â rhifau mawr iawn a bach iawn gan ddefnyddio'r botwm ×10x neu EXP ar dy gyfrifiannell.

Gallwn ni hefyd ddefnyddio'r hafaliad \(\text{buanedd =}~\frac{\text{pellter}}{\text{amser}}\) i gyfrifo buanedd ton.

Question

Cyfrifa amledd pelydriad uwchfioled.

Ei donfedd yw 200 × 10-9 (neu 200 nm).

Ei fuanedd yw 3 × 108 m/s.